Cyn athro gwyddoniaeth yw caplan newydd yr Archesgob
Mae athro gwyddoniaeth a roddodd y gorau i’r ystafell ddosbarth i ddilyn galwad i’r weinidogaeth yn dechrau ar rôl newydd y mis hwn fel Caplan i Archesgob Cymru.
Hyfforddodd y Parch James Tout ar gyfer y weinidogaeth tra’r oedd yn gweithio fel pennaeth cynorthwyol mewn ysgol. Yn dilyn ei ordeiniad mae wedi gwasanaethu fel curad cynorthwyol yn Wrecsam a hefyd fel cyfarwyddwr prosiect efengyliaeth blaengar Llan yn Esgobaeth Bangor.
Fel Caplan i’r Archesgob, bydd James yn aelod allweddol o dîm yr Archesgob, gan gefnogi a bod yn adnodd i’w weinidogaeth, yn ymarferol a hefyd drwy weddi, a pharatoi ei ymrwymiadau cyhoeddus. Bydd yn seiliedig yn Esgobaeth Bangor gan fod yr Archesgob hefyd yn Esgob Bangor.
Wrth gyhoeddi yr apwyntiad dywedodd yr Archesgob, Andrew John, “Rwy’n hynod falch i benodi James yn Gaplan i mi ac yn edrych ymlaen at weithio gydag ef i ddatblygu swyddfa’r Archesgob. Mae gan James gyfoeth o brofiad proffesiynol, yn ogystal â dirnadaeth fugeiliol, o fyd addysg a hefyd fel offeiriad a chyfarwyddwr Llan. Mae ganddo galon ar gyfer cenhadaeth ac efengyliaeth a fydd yn ased werthfawr yn y swydd hon.”
Dywedodd James, “Rwyf wrth fy modd i gymryd rôl newydd Caplan i’r Archesgob. Bu’n fraint mawr i arwain prosiect efengyliaeth Llan am yr ychydig flynyddoedd diwethaf sy’n ceisio ffyrdd newydd i ymwneud gyda phobl fel y gallant ddod i gysylltiad â Duw a chael eu trawsnewid. Rwy’n falch iawn i fedru parhau gweinidogaeth o fewn Esgobaeth Bangor a nawr yn daleithiol hefyd. Mae’r cyfle i weithio gyda’r Archesgob, y tîm uwch yn Esgobaeth Bangor, yn ogystal â’r Swyddfa Daleithiol ar adeg o newid mor gyffrous yn fy llonni.”
Yn hanu o Rydaman, Sir Gaerfyrddin, graddiodd James o Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Yn 2010 dechreuodd ar swydd athro Cemeg yn Ysgol Uwchradd Llanfyllin. Symudodd yn ddiweddarach i ysgol The Marches yng Nghroesoswallt lle gorffennodd ei yrfa addysgu fel Cyfarwyddwr Gwyddoniaeth a Phennaeth Cynorthwyol Cyswllt yn 2020.
Yn rhugl yn y Gymraeg, hyfforddodd James ar gyfer gweinidogaeth ordeiniedig yn rhan-amser drwy Sefydliad Padarn Sant a chafodd ei ordeinio gan Esgob Llanelwy yn 2019, gan wasanaethu ei deitl fel Curad Cynorthwyol NMS yn Eglwys Plwyf San Silyn, Wrecsam. Cafodd ei penodi yn Gyfarwyddwr Llan flwyddyn yn ddiweddarach.
Yn ei amser hamdden, mae James yn mwynhau treulio amser gyda’i deulu a’i ffrindiau. Mae ef ac Aled, ei fab saith mlwydd yn oed, yn angerddol am gampau modur a Lego.
Bydd yn dechrau ei rôl newydd fel Caplan yr Archesgob ar 28 Chwefror.