Ffydd yn y Dyfodol? Addoldai hanesyddol yn sgil COVID-19
Mae eich Fforwm Addoldai Hanesyddol yn eich gwahodd i ymuno â digwyddiad digidol – Ffydd yn y Dyfodol? – wrth i ni gydweithio i sicrhau bod ein addoldai yn goroesi'r heriau sydd wedi codi yn sgil y pandemig presennol.
Mae dyfodol ein hadeiladau'n ymddangos yn fwy ansicr nag erioed wrth i gyfyngiadau symud gael eu hailgyflwyno yn rhannau helaeth o'r wlad. Ac eto, er iddo droi ein byd ben i waered, un o ganlyniadau annisgwyl y pandemig byd-eang oedd yr arloesi a welwyd yn ei sgil. Wrth i gynulleidfaoedd Cymru addasu i'r byd ôl-COVID-19, gwelwn gyfle i fyfyrio ar sut mae addoldai wedi ymateb – a sut y byddant yn parhau i ymateb – i'r 'normal newydd’.
Mae cynulleidfaoedd wedi ymateb i'r argyfwng mewn ffyrdd rhyfeddol a chyffrous. Yn y digwyddiad hwn, ein nod yw casglu straeon bob dydd o arloesedd ac ysbrydoliaeth sydd wedi nodweddu ymateb cymunedau i'r cyfnod unigryw hwn. Mae pob un ohonom wedi profi ffyrdd newydd o gyfathrebu a gweithio dros y misoedd diwethaf. Mae'n naturiol, felly, ein bod hefyd yn ystyried dyfodol ein safleoedd hanesyddol ar adeg mor dyngedfennol.
Byddai'r Fforwm Addoldai Hanesyddol yn croesawu'r cyfle i glywed beth rydych chi ei angen er mwyn diogelu dyfodol eich addoldy. Cynlluniwyd y rhaglen i fod o werth ymarferol i gynulleidfaoedd sy'n wynebu cwestiynau anodd.
Bydd y Fforwm yn cael ei gynnal ar-lein er mwyn ymgysylltu â'r gynulleidfa ehangaf bosibl, a bydd yn gyfle i ddysgu o brofiad eraill sy'n wynebu heriau ac ansicrwydd tebyg. Bydd llawer o grwpiau ffydd wedi cael trafodaethau tebyg yn lleol, yn rhanbarthol neu'n genedlaethol. Nod y Fforwm yw rhannu'r hyn a ddysgwyd y tu hwnt i enwadau a crefyddau unigol. Bwriedir i'r digwyddiad hwn fod yn gyfle i rannu profiadau, gofyn cwestiynau a rhoi adborth.
Bydd y diwrnod yn cynnwys cyfuniad o ficrogyflwyniadau yn rhannu enghreifftiau lleol a sesiynau holi ac ateb yn archwilio tair thema:
- Addoldai digidol – o ffrydio addoliad i gasgliadau ar-lein, sut mae addoldai wedi mynd i'r afael â thechnolegau newydd?
- Addoldai cymunedol – o fanciau bwyd dros dro i lochesi nos newydd, sut rydym yn addasu mesurau ymateb cymunedol yn y byd ôl-bandemig?
- Addoldai ffisegol – er bod angen mannau cymunedol yn fwy nag erioed, beth yw'r goblygiadau ymarferol i addoldai wrth ailagor?
Rydym yn awyddus i groesawu enwadau a chrefyddau gwahanol o bob cwr o Gymru. Mae croeso i chi rannu manylion y digwyddiad hwn gydag unrhyw un a allai fod â diddordeb.
Ffydd yn y Dyfodol? Addoldai hanesyddol yn sgil COVID-19
9.15am - 12.15pm, 22 Hydref 2020
I archebu'ch lle am ddim, ewch i'r ddolen ganlynol: https://us02web.zoom.us/webinar/register/WN_dS7WnEyZTRSBMAd5U0H-Wg