Gardd yn ennill grant o £93,000 grant i leihau effaith y pandemig ar iechyd meddwl
Caiff pobl sy’n dioddef effeithiau niweidiol ynysigrwydd cymdeithasol oherwydd pandemig Covid 19 eu hannog i ymuno â phrosiect gardd gymunedol, diolch i grant o £93,000 gan y Loteri.
Mae Gardd Gymunedol Sant Pedr, erw o dir yr eglwys ym maestref y Tyllgoed yng Nghaerdydd, yn creu canolfan therapiwtig i gefnogi pobl sy’n dioddef o ynysigrwydd neu allgau cymdeithasol yn dilyn y pandemig. Nod y prosiect “presgripsiynu cymdeithasol” yw darparu amgylchedd gofalgar a chefnogol lle gall pobl fwynhau manteision garddio a gweithgareddau cymdeithasol.
Bydd y grant o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn talu am ddau aelod o staff rhan-amser ar gyfer y prosiect dros y tair blynedd nesaf.
Cafwyd y syniad am y prosiect pan welodd y tîm rheoli sut yr oedd cau’r ardd a’r neuadd gyfagos yn ystod y cyfnod clo wedi cael effaith wael ar bawb oedd wedi manteisio ar weithgaredd therapiwtig yn yr ardd a’r amrywiaeth o ddigwyddiadau cymdeithasol yn y neuadd. Wrth ymchwilio unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol, fe wnaethant ddarganfod fod ganddynt risgiau tebyg i ysmygu sigaréts ar farwoldeb.
“Mae’n amlwg y cafodd cyfyngiadau’r pandemig effaith negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol llawer o bobl,” medai’r Tad Colin Sutton, ficer Eglwys Sant Pedr a chadeirydd tîm rheoli’r Neuadd Gymunedol a’r Ardd.
“Mae’r grant yn golygu y gallwn yn awr feithrin capasiti fel y gall ein prosiect ehangu cyfleoedd i liniaru ynysigrwydd cymdeithasol a’r effeithiau negyddol ar iechyd meddwl. Bydd yn galluogi ein gwirfoddolwyr i roi adnoddau Neuadd Gymunedol a Gardd Sant Pedr ar unwaith eto a’u hymestyn i fynd i’r afael ag effaith cymdeithasol negyddol y pandemig.”
Bydd y prosiect yn adeiladu ar y gwaith cymunedol sydd eisoes yn mynd rhagddo yn yr ardd, a gafodd ei thrawsnewid dros y 12 mlynedd ddiwethaf o ddarn o dir gwastraff o amgylch Eglwys Sant Pedr i fod yn hafan werdd ar gyfer yr holl gymuned. Enillodd nifer o wobrau amgylcheddol, yn cynnwys y Faner Werdd a dyfarniad Eglwys Eco Arian gan sefydliad A Rocha. Mae’n cynnwys llyn bychan, cychod gwenyn, lleiniau llysiau a gardd dawel a hefyd berllan dreftadaeth Gymreig gyda choeden eirin a blannwyd gan EHB Y Dywysoges Frenhinol. Mae byddin o wirfoddolwyr yn ogystal â phlant o Ysgol Gyfun Tyllgoed gerllaw, pobl gydag anableddau dysgu a throseddwyr ifanc a chyn garcharorion yn gofalu am yr ardd.
“Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn cael mwy o bobl i’r ardd i’w mwynhau. Rydym eisiau iddi fod ar gael ar gyfer rhai o’r bobl fwyaf ynysig a bregus yn ein cymuned, gan ddangos iddynt eu bod yn cyfri ac y gallant gyfrannu a chael ymdeimlad o gyflawni. Rydym eisoes wedi gweld pobl yn symud o fod yn hollol ynysig i gymryd rhan lawn yn y gymdeithas a gwyddom y bydd llawer mwy o bobl y bydd angen iddynt wneud y daith hon yn dilyn y pandemig.”