‘Diolchwn am ein Brenhines’ – datganiad Esgobion
Mae’r Frenhines wedi ennill calonnau ei phobl drwy fywyd o urddas, parch ac ymroddiad iddynt, meddai esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
Mewn datganiad i goffau Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi, mae’r Esgobion yn rhoi diolch am deyrnasiad hir a gwasanaeth ymroddedig y Frenhines ac yn cofio, yn neilltuol, ei hymweliadau i Gymru.
Mae datganiad llawn yr Esgob yn dilyn.
Bydd eglwysi a chadeirlannau ar draws Cymru yn dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines, yn bennaf mewn gwasanaethau ar ddydd Sul, 5 Mehefin. Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys Gŵyl Coronau’r Jiwbilî, cyngherddau mewn cadeirlannau, ciniawau a the partis. Mae manylion pellach yn dilyn islaw, ar ôl y datganiad.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi gweddïau arbennig ar gyfer dathlu’r Jiwbilî Platinwm.
Datganiad yr Esgobion ar y Jiwbilî Platinwm
Wrth i Ei Mawrhydi y Frenhines ddathlu camp ryfeddol cyrraedd ei Jiwbilî Platinwm anfonwn ein llongyfarchiadau mwyaf calonnog ati. Diolchwn am ei theyrnasiad hir a’r gwasanaeth ymroddedig a roddodd i’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad dros saith degawd, gan gyflawni’r addewid a wnaeth pan etifeddodd yr orsedd. Ar hyd ei theyrnasiad, cafodd Ei Mawrhydi ei llywio gan ei ffydd Gristnogol ac enillodd galonnau ei phobl drwy fywyd o urddas, parch ac ymroddiad iddynt.
Gwerthfawrogwn yn neilltuol hoffter y Frenhines o Gymru a chofiwn gyda diolch ei hymweliadau niferus yma, p’un ai i ddathlu gyda ni neu rannu ein hamserau o alar a thristwch. Mae ei phresenoldeb mor aml wedi bod yn ffynhonnell o gysur, sicrwydd a chadernid i lawer wrth i’r blynyddoedd fynd heibio.
Rydym yn parhau i weddïo dros Ei Mawrhydi, y caiff ei harwain a’i chysuro gan ei ffydd a’i chariad at Dduw am weddill ei hoes.
Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John
Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy
Esgob Llandaf, June Osborne
Esgob Mynwy, Cherry Vann
Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas
Esgob Cynorthwyol Bangor, Mary Stallard
Dathliadau’r Jiwbilî
Cadeirlan Deiniol Sant, Bangor
- 2 Mehefin, 5.30pm: Gosber Gorawl mewn Diolchgarwch am Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines, dan Archesgob Cymru. Croeso i bawb.
- 2 Mehefin, te parti, 2-4pm. Dewch â the picnic,
- 11 Mehefin, cyngerdd gan Gôr y Gadeirlan am 7.30pm.
Cadeirlan Llandaf
16 Gorffennaf, Cyngerdd Jiwbilî am 7.30pm, gyda pherfformiad gan Rebecca Evans a chomisiwn newydd gan Jeffrey Howard yn dathlu cerddoriaeth werin Ynysoedd Prydain.
Cadeirlan Tyddewi
Mae Gŵyl Cadeirlan Tyddewi (27 Mai-5 Mehefin) yn cynnwys nifer o ddigwyddiadau i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm yn cynnwys:
- 2 Mehefin, 9.30pm. Gwledd o gerddoriaeth gorawl, yn cynnwys perfformiad o Cân i’r Gymanwlad, wrth i ffaglau gael eu cynnau ar draws y Gymanwlad.
- 3 Mehefin, 1pm. Picnic yn y Palas gyda Chôr GIG Cymru a Phalas yr Esgob
- 4 Mehefin, 7pm. Cyngerdd y Jiwbilî Platinwm gyda Chorau Cadeirlan Tyddewi a’r Sinffonietta Prydeinig gyda cherddoriaeth coroniad.
- Arddangosfa’r Ŵyl: ffotograffau, cofnodion ac atgofion o bedwar ymweliad y Frenhines i Gadeirlan Tyddewi yn ystod ei theyrnasiad, yn 1955, 1983, 1995 a 2001. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys arddangosiad wrth y brif allor o ran 12tr x 12tr o’r “carped aur” o goroniad y Frenhines. Cafodd y carped ei osod o amgylch yr orsedd a’r brif allor yn Abaty Westminster.
Tocynnau a gwybodaeth am yr Ŵyl
Cadeirlan Llanelwy
- 2 Mehefin, 6pm, Gwasanaeth Diolchgarwch y Jiwbilî a drefnir gyda Dinas Llanelwy. Bydd Esgob Llanelwy yn rhoi’r anerchiad. Caiff ffagl y Jiwbilî ei chynnau wedyn am 9.45pm ar dir y Gadeirlan. Croeso i bawb.
- 4 Mehefin, 7.30pm Cyngerdd y Jiwbilî Platinwm Tocynnau a gwybodaeth
Cadeirlan Casnewydd
5 Mehefin, 3pm, Gwasanaeth y Jiwbilî Platinwm, gyda the parti i ddilyn. Croeso i bawb.
Cadeirlan Aberhonddu
5 Mehefin, Gwesber Jiwbilî y Frenhines, 3.30pm. Bydd cerddorfa 12-darn yn y gwasanaeth yn chwarae anthem goroni Handel, Zadoc yr Offeiriad. Croeso i bawb.
Eglwys San Silyn, Wrecsam
- 2 Mehefin – 31 Awst: Gŵyl Coronau’r Jiwbilî
Bydd Gŵyl Coronau’r Jiwbilî yn cynnwys model 8 troedfedd o led o Goron Sant Edward, wedi eu hongian tu mewn y tŵr eiconig, a mwy na 70 o goronau eraill a wnaed gan blant ysgol a chymuned yr eglwys. Croeso i bawb.
- 2 Mehefin: Cinio’r Jiwbilî Mawr am 12.30pm. Tocynnau a gwybodaeth
- Bydd Cyngor Sir Wrecsam yn goleuo’r eglwys mewn coch, gwyn a glas dros Benwythnos y Jiwbilî Mawr.
Eglwys Santes Fair, Abertawe
12 Mehefin, 2.30pm, Gwesber Gorawl ar gyfer gwasanaeth Dathlu’r Jiwbilî Platinwm gydag anerchiad gan Esgob Abertawe ac Aberhonddu. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys yntred a gyfansoddwyd yn arbennig gan Dr William Reynolds. Croeso i bawb.
Eglwys Priordy Santes Fair, y Fenni
5 Mehefin, 11am, Bydd pobl yn gwisgo eu dillad gorau ar gyfer gwasanaeth Pentecost gyda thema Jiwbilî. Bydd y côr yn canu’r anthem gan Thomas Hewitt Jones a gomisiynwyd yn arbennig gan Ysgol Frenhinol Cerddoriaeth Eglwysig. Dilynir y gwasanaeth gan dderbyniad yng ngardd y ficerdy. Croeso i bawb.