Neges Nadolig - Esgob Bangor
Neges Nadolig 2020
Flwyddyn yn ôl, ychydig ohonom fyddai wedi dychmygu y byddwn yn dathlu’r Nadolig gyda chysgod feirws dros lawer iawn o’r byd. Llai fyth oedd yn gwybod beth yw Zoom, heblaw rywbeth ynghylch cyflymder a brys. Mae cymaint wedi newid yn ystod y deuddeg mis diwethaf nes bod darogan beth allai fod o’n blaenau fod mor ansicr a chyrhaeddiad y pandemig, sydd wedi cymryd cymaint o fywydau ac wedi gadael cymunedau’n teimlo’n ynysig ac yn drwblus. Mae’r gost i’r economi wedi bod yn enfawr a lles y wlad wedi dioddef, o bosibl, hyd yn oed yn fwy.
Byddai hynny’n swnio'n llwm, y tu hwnt i waredigaeth oni bai bod brechiad ar fin cyrraedd ac yn addo dyfodol gwell. Nid yw’n eglur beth fydd o’n blaenau yn y normal newydd ond mae hwn yn gyfnod y bydd llyfrau’n cael eu hysgrifennu amdano.
Rwyf wedi bod yn ymwybodol o’r rhai sydd wedi bod yn chwilio am ffyrdd i ddod â gobaith a charedigrwydd i'r rhai sydd yn y perygl mwyaf megis yr henoed, y rhai yn yr ysbyty neu ofalwyr. Bydd pob un ohonom yn cofio’r Clap Dydd Iau pan oedden ni’n diolch i weithwyr y Gwasanaeth Iechyd am eu gwaith anhygoel yn wynebu’r hyn a oedd yn ymddangos fel argyfwng yr argyfyngau. Roedd eraill yn sicrhau fod meddyginiaeth yn cael ei dosbarthu’n ddiogel ac yn gofalu nad oedd rhai bregus ac ar ymylon cymdeithas yn mynd yn angof. Mae gallu tosturi dynol i orlifo yn weithredu creadigol wedi’n hatgoffa, er y gallwn ni ymddangos yn analluog, dydyn ni ddim. Mae’r hyn oedd yn ymddangos yn dywyll ac yn ddychrynllyd wedi arwain at y fath o ofal a chefnogaeth ymarferol nas gwelwyd ers cenedlaethau lawer.
Efallai bydd rhan gyntaf y stori Nadolig yn canu cloch gyda llawer ohonom o ganlyniad. Anghofiwch y lluniau rhamantus o’r Geni wrth y preseb. Mae hon yn stori sy’n dangos Duw yng nghanol bywyd gyda’i holl heriau a’i gymhlethdodau: stori o sut mae Duw yn dod i mewn i anrhefn, yn cael ei eni i gwpl dryslyd oedd yn cael trafferth i wneud synnwyr o beth yn union oedd y plentyn annisgwyl hwn yn ei olygu. Ymhen ychydig, daeth y ddau, ac eraill, i sylweddoli fod Duw, drwy gamu i'r byd hwn, yn gwahodd yr holl ddynoliaeth i gysylltu â'i oleuni a’i fywyd trawsnewidiol.
Mae ail ran o stori’r Nadolig yn fwy ynghylch ein hymateb ni ein hunain. Os byddwn ni’n cael ein temtio i ofni ac anobeithio, gallwn ymateb i wahoddiad agored Duw i ddod â gobaith i ni. Os byddwn ni’n cael ein temtio i deimlo’n ddiffrwyth, cynnig Duw yw trawsnewid pob calon a meddwl.
Dyma yw nerth y Nadolig, sef grym Duw i ddod â goleuni i’r byd, goleuni nad yw byth yn pylu a bywyd sy’n dragwyddol.
Hoffwn ddymuno Nadolig llawen iawn ichi i gyd.
Esgob Bangor, Andrew John
- Mae ei neges fideo ar gael ar www.bishopbangor.com yn y Gymraeg neu'n Saesneg neu ar ei safle Facebook (www.facebook.com/BishopBangor/)