Gorsedd yn anrhydeddu Archesgob Cymru
Mae Archesgob Cymru ac Esgob Bangor wedi cael gwahoddiad i ymuno â’r Orsedd drwy dderbyn Urdd Er Anrhydedd y Derwydd, y Wisg Las, sydd ar gyfer Gwasanaeth i’r Genedl.
Bydd yn cael ei dderbyn i’r Orsedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni i gydnabod ei ymrwymiad i’r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Mae ei brosiect cenedlaethol, ‘Bwyd a Thanwydd’, lle bu’n ymgysylltu ag archfarchnadoedd a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw, yn parhau’n agos at ei galon. Mae wedi cydweithio ar Brosiect Llan, sy’n hyrwyddo diwylliant, iaith a’r ffydd Gristnogol Gymreig mewn modd cyfoes, wrth gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn Esgobaeth Bangor. Fel aelod o Fainc yr Esgobion, mae’n gyfrifol am yr iaith Gymraeg a Christnogaeth Gymreig, ac mae’n cefnogi ‘Cwrs Croeso’ yr Eglwys yng Nghymru, sy’n annog clerigwyr newydd i ddysgu Cymraeg.