Corff Llywodraethol – 14-15 Ebrill
Gofynnir i aelodau’r Eglwys ddatgan argyfwng hinsawdd a chynllunio i’r holl eglwys gael allyriadau carbon sero-net, yn ddelfrydol erbyn 2030, mewn cyfarfod cenedlaethol allweddol yr wythnos nesaf.
Bydd newid hinsawdd yn rhan ganolog o agenda Corff Llywodraethol yr Eglwys a gynhelir ar-lein ac a gaiff ei ffrydio’n fyw ar 14-15 Ebrill.
Gofynnir i Aelodau hefyd gymeradwyo cynnig yn galw am ddadfuddsoddi cronfeydd yr Eglwys o danwyddau ffosil mewn diweddariad o’i Bolisi Buddsoddiad Moesegol.
CHASE, grŵp amgylcheddol yr Eglwys, sy’n cyflwyno’r cynnig argyfwng ar yr Hinsawdd. Mae’n gofyn i aelodau “gydnabod fod angen ymateb byd-eang brys a chwim i dwymo byd-eang yn awr” ac i “ymdrechu, drwy gynllun gweithredu i gyrraedd sefyllfa o allyriadau sero-net carbon ar gyfer gweithgareddau’r Eglwys yng Nghymru cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.”
Hefyd ar agenda’r Corff Llywodraethol fydd ffarwel i’r llywydd, Archesgob Cymru, John Davies, sy’n ymddeol ar 2 Mai. Bydd yn cyflwyno ei Anerchiad Llywyddol terfynol yn ystod y sesiwn olaf.
Mae’r eitemau eraill yn cynnwys:
- Trafodaeth, mewn grwpiau bach, ar sut y bydd yr Eglwys yn ymgysylltu gyda byd ôl-bandemig;
- Cynnig i wneud 2022 yn flwyddyn o lythrennedd Beiblaidd, drwy hyrwyddo grwpiau bach, myfyrdod personol a chyfleoedd ehangach ar gyfer addysgu a dysgu;
- Cyflwyniad gan Esgobaeth Llandaf ar ei gweledigaeth strategol;
- Lansiad trydydd rhan y litwrgi Amserau a Thymhorau – cyfres sy’n anelu i wneud addoli yn groesawgar a bywiog;
- Adroddiad blynyddol Sefydliad Padarn Sant, adran hyfforddiant yr Eglwys yng Nghymru.
Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.
Mae’r agenda llawn a phob adroddiad ar gael ar-lein
Darllenwch yma