Cyfarfod o’r Corff Llywodraethol – 17-18 Ebrill
Mae’r argyfwng sy’n wynebu afonydd a dyfrffyrdd Cymru ar agenda cyfarfod allweddol o aelodau’r Eglwys yng Nghymru y mis hwn.
Bydd arbenigwyr ar ansawdd dŵr yn annerch aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys, sy’n cwrdd ar 17-18 Ebrill yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.
Bydd James Wallace, Prif Swyddog Gweithredol River Action, a Dr Christian Dunn, Cyfarwyddwr Cyswllt Grŵp Gwlypdiroedd Bangor, Prifysgol Bangor, ill dau yn rhoi cyflwyniad ar eu gwaith ac yn amlinellu maint yr argyfwng fel y gwelant ef.
Cânt eu cyflwyno gan Archesgob Cymru, Andrew John, sy’n trefnu Uwchgynhadledd ar Adfer Afonydd Cymru, a gynhelir ym mis Tachwedd.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae ein hafonydd mewn trafferthion ym Mhrydain. P’un ai drwy ryddhau carthion neu oherwydd fod lefel y maethion yn rhy uchel, mae ein hafonydd yn marw. Mae ein siaradwyr yn deall yr heriau cymhleth a wynebwn ac mae ganddynt brofiad fel ymgyrchwyr ac eiriolwyr sy’n eu galluogi i i siarad yn awdurdodol. Maent yn ffigurau allweddol yn yr Uwchgynhadledd ar Adfer Afonydd Cymru, a noddir gan yr Eglwys yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, a byddant yn helpu aelodau i ddeall pam fod y mater hwn yn effeithio arnom i gyd.”
Rhoddir y cyflwyniad ddydd Iau, 18 Ebrill, am 10am.
Ffurfir y Corff Llywodraethol o 144 o glerigwyr a lleygwyr etholedig o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli pob un o chwech esgobaeth yr Eglwys, ac mae’n cynnwys yr holl esgobion. Mae eitemau eraill ar agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Prif anerchiad gan Archesgob Cymru fel Llywydd y Corff Llywodraethol;
- Cynnig Aelodau Preifat yn cynnig newidiadau i oriau gwaith clerigwyr i wella eu cydbwysedd gwaith/bywyd;
- Lansio llawlyfr gweddi newydd, Beunydd gyda Duw;
- Diweddariad ar gynnydd sero-net yr Eglwys.
Gwahoddir aelodau hefyd i fynychu gwasanaeth i gadarnhau penodi esgob newydd. Penodwyd y Parch David Morris yn Esgob Enlli ac Esgob Cynorthwyol Bangor ym mis Ionawr a chaiff ei swydd newydd ei chadarnhau mewn seremoni gyfreithiol, y Synod Sanctaidd, yn ystod gwasanaeth Hwyrol Weddi yng Nghadeirlan Casnewydd ddydd Mercher 17 Ebrill, am 6pm, gyda chroeso i bawb.
- Mae’r agenda llawn a phob adroddiad ar gael ar-lein yma.
- Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru a sianel YouTube