Cyfarfod y Corff Llywodraethol – Ebrill 19-20
Caiff teclyn i helpu eglwysi i ostwng eu hôl-troed carbon ei lansio mewn cyfarfod allweddol o aelodau’r Eglwys yng Nghymru.
Bydd y Teclyn Ôl-troed Ynni yn rhan bwysig o strategaeth yr Eglwys i ostwng ei hôl-troed carbon a chyrraedd o nod o fod yn sero net erbyn diwedd y ddegawd.
Bydd yn galluogi pob adeilad eglwys i ganfod faint o garbon y mae’n ei gynhyrchu fel y gellir cymryd camau effeithlon i’w ostwng.
Caiff y teclyn ei lansio gan Archesgob Cymru, Andrew John, yn y cyfarfod deuddydd o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yn Venue Cymru, Llandudno, ar 19-20 Ebrill.
Bydd yn cael ei arddangos yn fyw ar yr ail ddiwrnod gan Dr Julia Edwards, sy’n arwain yr Eglwys ar fater newid yn yr hinsawdd, fydd hefyd yn rhoi diweddariad cynnydd ar strategaeth sero net yr Eglwys.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae ein Teclyn Ôl-troed Ynni yn hanfodol i ni wrth gyrraedd ein huchelgais sero net fel Eglwys. Nid yn unig mae’r teclyn yn cyfrif ôl-troed carbon unrhyw adeilad eglwys ar unwaith pan roddir ei data ar ddefnydd ynni, bydd hefyd yn ein galluogi i fod yn fwy effeithiol wrth adnabod a thargedu yr adeiladau sy’n defnyddio llawer o ynni. Rwy’n annog pob clerigwr a gwirfoddolwr gyda chyfrifoldeb am filiau cyfleustod i ddefnyddio’r Teclyn Ôl-troed Ynni a dangos ein bod ar y cyd yn gofalu am ein defnydd o’n hadnoddau a roddwyd i ni gan Dduw.”
Mae Corff Llywodraethol yr Eglwys yn cynnwys 144 o glerigwyr etholedig a lleygwyr o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli pob un o chwech esgobaeth yr Eglwys. Mae’r eitemau eraill ar yr agenda yn cynnwys:
- Prif anerchiad gan Archesgob Cymru fel Llywydd y Corff Llywodraethol;
- Cyflwyniad ar ddatblygiadau addysgol yng Nghymru mewn cysylltiad â’r Gymdeithas Genedlaethol dros Hyrwyddo Addysg;
- Cyflwyniad ar waith Sefydliad Padarn Sant;
- Adroddiad o gyfarfod y Cyngor ymgynghorol anglicanaidd a gynhaliwyd yn Ghana ym mis Chwefror;
- Lansio pedwerydd rhan litwrgi newydd dan yr enw Amserau a Thymhorau.
Cynhelir cyfarfod Synod Sanctaidd yn ystod yr Hwyrol Weddi i gadarnhau etholiad ar 19 Ionawr yr Esgob Mary Stallard, Esgob Cynorthwyol Bangor, i fod yn Esgob nesaf Llandaf.
Cynhelir y gwasanaeth ar 19 Ebrill yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno am 6pm ac mae croeso i bawb fynychu.
Mae’r agenda llawn a phob adroddiad ar gael ar-lein yma
Croesewir gohebwyr i fynychu.Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn https://www.churchinwales.org.uk/cy/ a sianel YouTube