Corff Llywodraethol – 27-28 Ebrill
Caiff fframwaith i’r Eglwys yng Nghymru gyrraedd ei tharged allyriadau carbon sero-net ei drafod mewn cyfarfod allweddol yn ddiweddarach y mis hwn.
O atal drafftiau o ddrysau a ffenestri i osod mannau gwefru ar gyfer ceir trydan, mae’r fframwaith yn cynnig set o fesurau y gall pob rhan o’r Eglwys eu cymryd i fod yn fwy effeithiol o ran ynni a mynd i’r afael â bygythiad newid hinsawdd.
Caiff ei drafod gan aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yn ystod eu cyfarfod deuddydd ar 27-28 Ebrill yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol yng Nghasnewydd. Gofynnir i aelodau ei gymeradwyo, yn amodol ar bwyntiau allweddol o waith grŵp yn ystod y cyfarfod, ac i annog pob lefel o’r Eglwys i’w groesawu a’i fabwysiadu.
Paratowyd y fframwaith mewn ymateb i ddatganiad y Corff Llywodraethol fis Ebrill ddiwethaf am Argyfwng Hinsawdd ac anelu i ddod yn garbon sero-net erbyn 2030.
Mae’n cydnabod y bydd datgarboneiddio’r Eglwys yn “her sylweddol” ond dywed nad yw gwneud dim yn opsiwn.
“Drwy osod camau graddol a hylaw yn y ddogfen hon, gobeithiwn y bydd y nod sero-net yn ymddangos yn rhwyddach ac yn fwy cyraeddadwy. Yr hyn a wyddom yw y galwyd arnom i gyd i ofalu am greadigaeth Duw, i weld y rhyfeddod sydd o’n hamgylch, caru ein cymydog ymhell ac agos drwy fyw mewn perthynas gyfiawn a chariadus gyda phawb. Gallwn helpu i ddatrys anghyfiawnder hinsawdd yn y byd drwy arddangos ein consyrn am y blaned a’n sensitifrwydd a’n gofal tuag at y mwyaf bregus mewn cymdeithas yn awr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu cymryd camau gweithredu uniongyrchol ac uchelgeisiol ar yr hinsawdd nawr.”
Gallwch ddarllen y Fframwaith Carbon Sero-Net, a drafodir yn ail ddiwrnod y cyfarfod, 28 Ebrill, yma
Mae’r corff Llywodraethol yn cynnwys 144 o glerigwyr a lleygwyr etholedig o bob rhan o Gymru yn cynrychioli pob un o chwech esgobaeth yr Eglwys. Mae’r eitemau eraill ar agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Anerchiad cyweirnod gan Archesgob Cymru fel Llywydd y Corff Llywodraethol
- Ffocws ar addysg fydd yn cynnwys yr gwricwlwm newydd a chyflwyniad gan blant Ysgol Gynradd Dewi Sant yr Eglwys yng Nghymru, Caerdydd.
- Cyflwyniad gan Esgobaeth Mynwy ar ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth heddiw.
Mae’r agenda llawn a phob adroddiad
Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn a sianel YouTube