Corff Llywodraethol Tachwedd 3-4
Mae sicrhau fod eglwys yn lle diogel a chefnogol i bawb yn ganolog i bolisi newydd ar ddiogelu a lansir yng nghyfarfod nesaf Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru.Mae’r polisi diwygiedig yn ei gwneud yn glir fod diogelu yn gyfrifoldeb i bawb ac y disgwylir i bawb sy’n gweithio i’r eglwys gydymffurfio ag ef.
Bydd aelodau’r Corff Llywodraethol yn cwrdd ar-lein ar 3-4 Tachwedd i barhau eu cyfarfod a ddechreuodd ym mis Medi ond y bu’n rhaid ei ohirio oherwydd problemau technegol.
Gofynnir i aelodau’r Corff Llywodraethol adnabod pwysigrwydd hyrwyddo ymarfer diogelach ar gyfer plant ac oedolion yn ein heglwysi a’n cymunedau ac i fabwysiadu’r polisi newydd.
Dywed y polisi, “Mae’r Eglwys yng Nghymru eisiau darparu amgylchedd diogel, hapus a chefnogol o genhadaeth a gweinidogaeth lle gall holl bobl Duw dyfu a datblygu yn eu hymrwymiad Cristnogol.
“Mae’r rhai sy’n gweithio i’r eglwys ac yn ei chefnogi, yn lleygwyr ac yn ordeiniedig, a ph’un ai’n wirfoddolwyr neu’n gyflogedig, yn hanfodol i sicrhau y caiff pob person eu trin gydag urddas a pharch a’u gwerthfawrogi bob amser, p’un ai ydynt yn blant, oedolion mewn risg, oedolion sy’n fregus yng nghyd-destun yr Eglwys, goroeswyr camdriniaeth neu droseddwyr.
“Mae gan yr Eglwys yng Nghymru gyfrifoldeb am sicrhau fod holl aelodau’r eglwys, yn cynnwys y rhai sy’n gweithio yn yr eglwys, yn derbyn gofal ac yn cael eu hamddiffyn drwy ddarparu hyfforddiant effeithlon a chefnogaeth briodol. I gyflawni hyn mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymroddedig i fod yn Eglwys Ddiogel.”
Bydd y Corff Llywodraethol yn cwrdd ar-lein, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, ar gyfer busnes hanfodol yr Eglwys. Bydd ei 144 aelod, sy’n cynnwys esgobion esgobaethol a chlerigwyr a lleygwyr etholedig o bob rhan o Gymru, yn cymryd rhan yn y tri sesiwn arall dros y deuddydd a gaiff eu ffrydio’n fyw. Fel arfer cynhelir cyfarfodydd o’r Corff Llywodraethol ddwywaith y flwyddyn, bu’n rhaid canslo’r cyfarfod diwethaf, oedd i fod i’w gynnal ym mis Ebrill, oherwydd y pandemig.
Mae’r eitemau eraill ar yr agenda yn cynnwys:
- Homili gan y Llywydd, Archesgob Cymru
- Dau Fil i ddiwygio’r Cyfansoddiad yng nghyswllt tribiwnlysoedd
- Adroddiadau blynyddol y Corff Cynrychiolwyr a Sefydliad Padarn Sant
- Adroddiad gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
- Adroddiad ar ystadegau gweinidogaeth
- Adroddid ar y Gronfa Cenhadaeth Dramor
Mae’r agenda a’r papurau llawn
Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru