Corff Llywodraethol – 6 ac 8 Medi
Bydd cyplau o’r un rhyw yn medru cael bendithio eu partneriaeth sifil neu briodas yn eglwysi yr Eglwys yng Nghymru am y tro cyntaf os caiff deddfwriaeth newydd ei phasio fis nesaf (mis Medi).
Caiff Bil i awdurdodi gwasanaeth bendithio ei ystyried gan aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yn ei gyfarfod ar 6 Medi.
Mae’n cynnig fod y gwasanaeth yn gael ei ddefnyddio’n arbrofol am bum mlynedd ac y bydd yn fater i glerigwyr unigol benderfynu os dymunant ei arwain ai peidio.
Mae’r gwasanaeth ar gyfer bendith yn unig gan na all cyplau o’r un rhyw briodi mewn eglwys.
Cyflwynir y Bil gan yr Esgobion, yn dilyn arwydd gan aelodau’r Corff Llywodraethol ei bod yn awr yn “anghynaliadwy yn fugeiliol” i’r Eglwys beidio gwneud darpariaeth ffurfiol ar gyfer y rhai mewn perthynas ymrwymedig rhwng cyplau o’r un rhyw.
Yn y Memorandwm Esboniadol dywedant, “Byddai cymeradwyo’r ddefod hon yn datgan bod yr Eglwys yng Nghymru yn derbyn bod ymrwymiadcariadus a ffyddlon dau unigolyn o’r un rhywedd sy’n dyheu am gydymgeledd a ffyddlondeb gydoleu hoes, ac sydd wedi gwneudymrwymiad mewn partneriaeth sifil neu briodas, yn haeddu cael euderbyn gan yr Eglwys trwy ofyn am fendith Duw ar eu hymrwymiad.”
Tra’n cydnabod fod y Bil yn ddadleuol, maent yn ei ddisgrifio fel “gam yn y cyfeiriad cywir tuag at edifeirwcham hanes yn yr Eglwys ofelltithio ac erlid hoywon a lesbiaid, a’u gorfodi i fywyd o ofn, anonestrwydd ac weithiau rhagrith,a’u heithrio rhag byw bywydau cyhoeddus ac onest a rhannu partneriaeth ymrwymol.”
Mae’r esgobion yn annog aelodau o’r Corff Llywodraethol i drafod y Bil mewn modd parchus ac urddasol, gan gydnabod y bydd yn codi materion anodd o ffydd a chredo. Maent wedi cyhoeddi cyfres o 'Egwyddorion Bugeiliol’ y bwriedir iddynt lywio pobl tuag at drafodaethau meddylgar ac ystyriol.
Wrth eu cyflwyno dywedant, “Ni all fod unrhyw le i geisio tanseilio barn a gaiff ei dal yn ddiffuant. Ni ddylem ychwaith geisio cerdded ymaith o’n gilydd. Mae ein hundeb yng Nghrist wrth galon ein bywyd ac mae cadwynnau a chymeriad ein bedydd yn ein dal gyda’n gilydd; gan rannu ymrwymiad i’n gilydd wrth i ni gyda’n gilydd geisio Teyrnas Dduw. Gobeithiwn y bydd y deunyddiau hyn yn ysgogi’r ansawdd hwn o ymgysylltu.”
Caiff y Bil ei drafod ar ddiwrnod cyntaf cyfarfod y Corff Llywodraethol a gynhelir ar 6 Medi yng Nghanolfan Gonfensiynau Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd a chaiff ei ffrydio’n fyw ar ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru a sianel Youtube. Bydd ail ddiwrnod y cyfarfod ar-lein yn unig, ar Zoom, ddydd Mercher 8 Medi a chaiff hefyd ei ffrydio’n fyw.
Mae’r eitemau eraill ar yr agenda yn cynnwys:
- Anerchiad gan y Llywydd, Esgob Bangor, Andy John
- Diweddariad ar gynnydd yr Eglwys at ei darged sero carbon
- Trafodaeth sesiwn lawn ar sut y dylai’r Eglwys ddod allan o Covid-19
- Cyflwyniad ar adnoddau ar gyfer ‘digwyddiadau bywyd’ megis bedydd, priodas ac angladd gyda’r Canon Dr Sandra Millar, pennaeth digwyddiadau bywyd ar gyfer yr Eglwys yn Lloegr
- Diweddariad ar gynlluniau ar gyfer Blwyddyn o Lythrennedd Beiblaidd yn 2022
Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru a sianel Youtube
Mae’r agenda llawn a phob adroddiad ar gael ar-lein
Lawrlwythwch yma