Corff Llywodraethol – 7-8 Medi
Bydd aelodau’r Eglwys yng Nghymru yn trafod cynlluniau mentrus ar gyfer efengyliaeth a thwf yr eglwys dros y degawd nesaf mewn cyfarfod allweddol fis nesaf.
Caiff strategaeth 10-mlynedd i ennyn diddordeb mwy o bobl yn y ffydd Gristnogol a meithrin eu bywydau ysbrydol ei thrafod gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yn ystod ei gyfarfod deuddydd ar 7-8 Medi yn y Ganolfan Gynadleddau Ryngwladol yng Nghasnewydd.
Cyflwynir y weledigaeth strategol gan Archesgob Cymru, Andrew John, a bydd Medwin Hughes, cadeirydd y Corff Cynrychiolwyr, yn amlinellu ei gefnogaeth ariannol. Bydd aelodau’n trafod y cynlluniau mewn grwpiau bach a fydd wedyn yn adrodd yn ôl i’r cyfarfod mewn sesiwn lawn. Caiff eu sylwadau eu bwydo i’r strategaeth wrth iddi gael ei chwblhau yn ddiweddarach eleni.
Mae’r Corff Llywodraethol yn cynnwys 144 o glerigwyr a lleygwyr etholedig o bob rhan o Gymru, yn cynrychioli pob un o chwech esgobaeth yr Eglwys. Mae’r eitemau eraill ar agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys:
- Anerchiad cyweirnod gan Archesgob Cymru fel Llywydd y Corff Llywodraethol
- Diweddariad ar brosiectau a sefydlwyd gan Gronfa Efengyliaeth yr Eglwys yn cynnwys cyflwyniadau gan ddau ohonynt: yr eglwysi newydd, Stryt yr Hôb yn Wrecsam a’r Eglwys Dinasyddion yng Nghaerdydd.
- Adroddiad gan yr Esgobion ar Gynhadledd Lambeth y Cymun Anglicanaidd a gynhaliwyd yn ddiweddar.
- Adroddiad o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gan yr Is-ganghellor, Medwin Hughes. Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sydd â chysylltiadau hanesyddol gyda’r Eglwys, yn dathlu ei daucanmlwyddiant eleni ac, am y tro cyntaf, mae ei is-ganghellor hefyd yn gadeirydd Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys.
- Cyflwyniad ar lythrennedd Beiblaidd gan Gymdeithas y Beibl.
Caiff y cyfarfod ei ffrydio’n fyw drwy ddolen ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yna sianel YouTube
Mae’r agenda llawn a phob adroddiad
Lawrlwythwch yma