Nodyn uchel ar gyfer aelodau côr merched cadeirlan
Caiff hanes ei wneud mewn cadeirlan yng Nghymru eleni wrth iddi gynnig cyfle cyfartal am y tro cyntaf i ferched a bechgyn sy’n dymuno bod yn aelodau côr.
O fis Medi ymlaen, bydd y Côr Merched yng Nghadeirlan Llandaf yn canu’r un nifer o wasanaethau â’r Côr Bechgyn. Bydd y ddau gôr, sydd ill dau ag 18 aelod, yn rhannu dyletswyddau’n gyfartal rhyngddynt, gyda phob un yn canu dau wasanaeth hwyrnos corawl yr wythnos a dau wasanaeth bob yn ail ddydd Sul. Caiff aelodau’r ddau gôr eu haddysgu yn Ysgol y Gadeirlan a byddant yn derbyn Ysgoloriaeth am eu hymroddiad.
Mae’r newid yn rhan o dueddiad a welir mewn Cadeirlannau eraill yn y Deyrnas Unedig, yn cynnwys Caerloyw, Caerwrangon ac Ely.
Stephen Moore, Cyfarwyddwr Cerdd Cadeirlan Llandaf, fydd yn gyfrifol am y ddau gôr. Dywedodd, “Ers amser maith bu Cadeirlan Llandaf yn fan lle mae cerddoriaeth gorawl o’r safon uchaf wedi ffynnu. Rwyf wrth fy modd y byddwn o fis Medi 2022 ymlaen yn medru cynnig yr un cyfleoedd i enethod a bechgyn sy’n dymuno bod yn aelodau o’r corau yma. Ers eu sefydlu gan Ysgol y Gadeirlan yn 1996, bu gan y merched rôl bwysig mewn addoliad yn y gadeirlan, gan ganu Hwyrnos bob wythnos a chyfrannu at wasanaethau eraill. Mae’r cam hanesyddol hwn, lle bydd y ddau gôr yn cael rhan gyfartal o ganu, yn nodi pennod newydd gyffrous ym mywyd cerddorol y gadeirlan.”
Dywedodd Clare Sherwood, Pennaeth Ysgol y Gadeirlan Llandaf: “Mae canu mewn côr cadeirlan yn gyfle sy’n cyfoethogi bywyd plant a buom yn hynod falch i fedru cefnogi Côr Cadeirlan Llandaf am genedlaethau. Mae creu cyfle cyfartal i ferched a bechgyn i ganu yn cyfoethogi ein haddoliad a gwn yr aiff y ddau gôr o nerth i nerth dan y trefniadau newydd.”
Meddai’r Canon Mark Preece, Arweinydd y Gân yng Nghadeirlan Llandaf, “Mae canu corawl wrth galon ein haddoliad drwy’r flwyddyn ac mae ein corau yn rhan fywiog a llawen o gymuned y gadeirlan. Daeth hyn yn amlwg iawn yn ystod pandemig Covid pan wnaeth cyfyngiadau ar ganu i ni gyd sylweddoli faint y dibynnwn ar gerddoriaeth i fynegi a chyfoethogi ein haddoliad. Cawsom ein bendithio’n fawr yn Llandaf drwy gael traddodiad corawl rhagorol a hirsefydlog. Rydym wrth ein boddau y bydd aelodau ifanc talentog ac ymroddedig ein corau yn rhannu eu dyletswyddau Cadeirlan yn gyfartal yn y dyfodol agos.”
Mae croeso i ddarpar rieni gysylltu â’r Cyfarwyddwr Cerdd, Stephen Moore, i gael trafodaeth anffurfiol am botensial eu plentyn am ysgoloriaeth gorawl yng Nghadeirlan Llandaf.