Hanes yn cael ei wneud wrth i’r Eglwys benodi ei hesgob ieuengaf erioed
Ef unwaith oedd yr offeiriad ieuengaf yn yr Eglwys yng Nghymru. Nawr, 13 mlynedd yn wedyn, bydd y Parch Ganon David Morris yn gwneud hanes drwy ddod ei hesgob ieuengaf erioed.
Mae Andrew John, Archesgob Cymru ac Archesgob Bangor, wedi penodi David yn Esgob Cynorthwyol Bangor. Yn ddim ond 37 oed, David fydd y person ieuengaf erioed i wasanaethu fel esgob yn yr Eglwys yng Nghymru.
Yn aelod uwch o staff Esgobaeth Bangor, mae David wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Gweinidogaeth yr Esgobaeth am y ddwy flynedd diwethaf. Mae hefyd yn Ganon Preswyl Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor.
Yn wreiddiol o Cymer yng Nghwm Rhondda, graddiodd David mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, pan wnaeth hefyd gwblhau gradd Meistr mewn diwinyddiaeth. Fe’i ordeiniwyd yn offeiriad yn 2010 yng Nghadeirlan Llandaf a gwasanaethodd fel curad ym Merthyr Tudful. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, penodwyd David yn offeiriad plwyf Grangetown yng Nghaerdydd, lle gwasanaethodd am saith mlynedd ac roedd hefyd yn Gynghorydd Galwedigaethau ar gyfer Esgobaeth Llandaf. Yn 2019 cafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid Esgobaeth Llandaf a Ficer yn Ardal Gweinidogaeth Dwyrain y Fro, ym Mro Morgannwg, swydd a fu ganddo am dair blynedd cyn iddo symud i Fangor.
Gwnaed David yn Gomander Urdd Sant Ioan yn 2020 a bu’n weithgar gydag Ambiwlans Sant Ioan Cymru fel caplan ers 2010; cafodd ei benodi yn Ddeon y Priordy ar gyfer Cymru yn 2019 ac yn Ymddiriedolydd yr elusen yn 2020.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Eglwys, a gwn y bydd gan David rôl bwysig tu hwnt wrth symud y gwaith ymlaen
Wrth gyhoeddi ei benodiad, dywedodd yr Archesgob Andrew, “Rwy’n hynod falch bod David wedi derbyn y penodiad hwn i helpu symud ymlaen gyda gwaith yr Eglwys yn Esgobaeth Bangor, lle cafodd ei alwedigaeth ei hun fel offeiriad ei ffurfio. Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad gwych i fywyd yr esgobaeth, a rwy’n gwybod y bydd yn rhoi arweinyddiaeth ysbrydoledig a gofal bugeiliol dwfn i’n cynulleidfaoedd a’r cymunedau a wasanaethant. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r Eglwys, a gwn y bydd gan David rôl bwysig tu hwnt wrth symud y gwaith ymlaen.”
Dywedodd David, “Mae cael galwad i wasanaethu fel Esgob Cynorthwyol Esgobaeth Bangor y fraint fwyaf bosibl. Astudiais ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor ac ers i mi ddychwelyd i’r esgobaeth yn 2022, mae fy nghariad at y rhan arbennig iawn yma o’r byd a’i bobl wedi tyfu’n ddyfnach byth. Mae’r straeon ysbrydoledig o ffydd a gwasanaeth a glywais ar draws ein cymunedau’r eglwys wedi cael effaith fawr arnaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at chwarae fy rhan wrth helpu’r cymunedau hyn i dyfu a ffynnu.”
Cafodd penodiad David ei gymeradwyo gan holl esgobion yr Eglwys yng Nghymru a chaiff ei gadarnhau mewn cyfarfod Synod Sanctaidd ym mis Ebrill. Caiff ei gysegru fel esgob a'r Mai 11 a bydd yn defnyddio teitl Esgob Ynys Enlli, yn ogystal ag Esgob Cynorthwyol Bangor.
Yn ei amser hamdden, mae David yn mwynhau garddio, teithio, cadw’n heini a threulio amser gyda’i ddyweddi, Marc Penny, a’i gath, Gordon.
Mae Esgobaeth Bangor yn ymestyn ar draws gogledd orllewin Cymru ac mae ganddi boblogaeth o 190,000 o bobl.