Neges Nadolig
“Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu,” geiriau o ddechrau’r llyfr a ysgrifennwyd gan St Ioan ynglŷn â bywyd a marwolaeth Iesu. Rydym yn gyfarwydd â storiau’r geni ym Mathew a Luc, ond mae St Ioan, yn lle agor ei efengyl â genedigaeth Iesu ym Methlehem, yn canolbwyntio ar dragwyddoldeb. Roedd amryw feddylwyr yn y cyfnod cyn-Gristionogol a’r cyfnod Cristionogol cynnar wedi ceisio datrys y pos – ‘sut y gallai Duw daionus greu a chynnal ac arddel byd megis yr eiddom ni’? Mae pobl yn dal i wneud hynny. Nid yw Ioan yn cynnig ateb athronyddol ond mae’n datgan yn groyw “Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu.”
Adeg y Nadolig, cyhoeddwn fod y goleuni hwn sy’n “goleuo pob dyn, yn dyfod i’r byd.” Yng ngenedigaeth, bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, gwireddwyd cariad Duw. Mae St Ioan yn datgan “gwelsom ei ogoniant ef, gogoniant fel unig fab yn dod oddiwrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd.” Addawodd yr Iesu hwn fod gyda ni “hyd ddiwedd y byd,” ac anfonodd ei Ysbryd Glân i brofi ei bresenoldeb gerbron y sawl sy’n ymholi. Nid yw Iesu’n ateb y broblem - pam fod Duw’n caniatáu i bethau drwg ddigwydd, megis newyn, tristwch, creulondeb a phandemig. Dengys Iesu ystyr cariad Duw ar waith, a gelwir arnom ni i fod yn bobl a all fod, drwy Ei ras, ein geiriau a’n gweithredoedd, yn rhan o’r ateb yn hytrach na rhan o’r broblem.
Mae hon yn neges y mae angen i ni ei chlywed a’i harddel. Nid tinsel, Sion Corn neu fins peis yw hanfod neges y Nadolig, er cymaint eu hapêl i ni. Nid codi calon chwaith ar adeg anodd yw diben ein neges Nadolig. Ac nid dihangdod yw’r nod. “Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu.” Dyma’r geiriau y mae angen i ni ddal gafael arnynt y Nadolig hwn. “Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu.” Mae’n adeg o bandemig arnom. Collasom anwyliaid. Collwyd swyddi a sicrwydd ariannol. Mae yna ansicrwydd gwleidyddol, ac amhosib gwybod beth ddaw yn sgîl yfory. Eithr gwelsom ninnau hefyd oleuni’n llewyrchu yn y tywyllwch: goleuni’r GIG, goleuni’r Gofalwyr, y gwasanaethau brys, goleuni’r rheiny y bu i’w gwaith sicrhau, ddydd ar ôl dydd, y byddai ein hanghenion yn cael eu diwallu yn ystod cyfnodau clo, cymdogion da a fu’n fawr eu gofal y naill am y llall. Ie, cyfnod tywyll o bosib, ond deil goleuni i lewyrchu. Y Nadolig hwn, boed i ni geisio’r gras i fod yn oleuni i’n gilydd, ac wrth i ni ddathlu geni Iesu, goleuni’r byd, gadewch i ni ofyn iddo beri i’w Oleuni lewyrchu yn ein geiriau a’n gweithredoedd. Pan ddaw’r Nadolig boed i ni ddathlu, drwy dinsel a goleuadau lliw, fod Iesu goleuni’r byd yn parhau i lewyrchu yn y tywyllwch, yn Oleuni na all angau hyd yn oed, ei ddiffodd.
Bydded llawenydd yr angylion, eiddgarwch y bugeiliaid, dyfalbarhad y doethion, ufudd-dod Joseff a Mair, a thangnefedd y Crist blentyn fod gyda chi’r Nadolig hwn.
+Joanna Tyddewi