Diwrnod Cofio’r Holocost yn boenus o bwysig – Archesgob Cymru
Mewn byd lle mae’n dal i fod cymaint o erledigaeth ac anoddefgarwch, mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn parhau i fod mor bwysig ag erioed, meddai Archesgob Cymru.
Mewn datganiad i nodi’r diwrnod ar 27 Ionawr, mae’r Archesgob Andrew John yn cydnabod y poen a ddaw i’n hatgoffa am yr erchyllterau a gyflawnwyd. Mae’n defnyddio thema eleni o ‘Un Diwrnod’ i ddisgrifio ystyr y digwyddiad.
Mae ei ddatganiad llawn yn dilyn.
Caiff seremoni rhithwir o goffâd Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 Cymru ar 27 Ionawr ei darlledu am 11am o Neuadd y Ddinas Caerdydd. Bydd y coffâd aml-ffydd yn cael ei gynnal gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd a’i arwain gan y Parch Ganon Stewart Lisk. Gallwch ymuno yn www.youtube.com/cardiffcouncil.
Bydd Seremoni’r Deyrnas Unedig ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost 2022 yn cael ei ffrydio’n fyw am 7pm ddydd Iau 27 Ionawr. Cofrestrwch yma:
- Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost | Diwrnod Cofio’r Holocost y DU: Seremoni 2022 (hmd.org.uk)
Am 8pm, caiff cartrefi ar draws y Deyrnas Unedig eu gwahodd i “Oleuo’r Tywyllwch” drwy gynnau canhwyllau a’u gosod yn ddiogel yn eu ffenestri i gofio am y rhai a lofruddiwyd am bwy oeddent ac i sefyll yn erbyn rhagfarn a chasineb heddiw.
Datganiad Archesgob ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost unwaith eto yn bwrw cysgod ar ddechrau llwm ein blwyddyn. Ni aiff ymaith, er y nifer cynyddol o flynyddoedd a fu ers erchyllterau’r Natsïaid. Yn lle hynny mae’r cysgod y mae’n ei fwrw yn ymestyn yn hirach, gan gyrraedd yn ddyfnach i gilfachau ein cydwybod.
Er yn boenus, bob blwyddyn daw’n bwysicach i nodi’r ‘un diwrnod’ hwn – i sefyll yn gyhoeddus wrth ochr y rhai a ddioddefodd fel canlyniad i’r Holocost a hinladdiadau ers hynny a holl ddioddefwyr erledigaeth, rhagfarn, anoddefgarwch a therfysgaeth sy’n dal i ddioddef heddiw.
Dyma ein ‘un diwrnod’ i ystyried dichellgarwch casineb a’r creulondeb y mae dynoliaeth yn alluog ohono, i edifarhau amdano a chadw golwg amdano. Dyma hefyd ein ‘un diwrnod’ i gofio gweithredoedd o hunanaberth ac arwriaeth sydd mor aml yn dod i’r amlwg o ddioddefaint mawr. Dyma ein ‘un diwrnod’ i ymrwymo ein hunain i fyd gwell lle nad oes unrhyw le ar gyfer gwahaniaethu, allgau a chasineb.
Fel Cristnogion a phobl o ffydd, credwn fod Duw yn sefyll gyda ni yn ein dioddefaint ac yn caru pob un ohonom fel ydym, fel y gwnaeth Ef ni. Mae hyn yn rhoi gobaith a dewrder i ni wrth i ni unwaith eto nodi yr ‘un diwrnod’ hwn a wynebu gweddill ein diwrnodau.
Nid yw Diwrnod Coffa’r Holocost yn ddiwrnod rhwydd na chysurus ond nes bod y byd yn un lle mae pawb yn rhydd o gasineb, mae’n parhau i fod mor hanfodol ac mor bwysig ag erioed.