"Mae'n warth bod pobl yn byw mewn tlodi," meddai Archesgob Cymru
Archesgob Cymru yn ymateb i adroddiad cyfrifiad costau byw.
"Mae adroddiadau newyddion yr wythnos hon sy'n disgrifio pobl sy'n byw ar fwyd ci a roddwyd yn dangos y lefelau dwfn o dlodi y mae llawer yn eu hwynebu nawr. Mewn gwlad lle mae cyfoeth toreithiog, mae’n warth llwyr y gall hyn ddigwydd. Ni ddylai pobl ddioddef y math hwn o warth na phrofi'r cywilydd o fod angen cymorth cyson gan eraill i fyw bywyd gweddus.
"Rwyf mor ddiolchgar i’r eglwysi a’r cymunedau hynny sy’n dangos (cymaint mewn tosturi â phrotest) creadigrwydd wrth iddynt ddod o hyd i ffyrdd o wneud gwahaniaeth. Rwyf wedi ymweld ag eglwysi sy’n darparu gwasanaethau gyda chinio am ddim, sy’n dosbarthu bwyd i’r rhai nad ydynt yn gallu fforddio’r gost o ddod i fanc bwyd. Rwyf wedi gweld y perthnasoedd sy’n cael eu meithrin sy’n ceisio mynd i’r afael ag achosion tlodi yn ogystal â mynd i’r afael â phryderon uniongyrchol y rheini nad oes ganddynt ddigon i ymdopi.
"Mae ein hymgyrch (Bwyd a Thanwydd) yn ceisio adeiladu momentwm, i symud y ddadl i ffwrdd o slingio mwd tuag at berchnogaeth. Yr wyf yn argyhoeddedig y gall clymblaid eang o ofal ar draws y gymdeithas gyfan fod mor drawsffurfiol â’r symudiadau cymdeithasol mawrion gynt megis cynnydd Methodistiaeth. Rydym felly’n gofyn i randdeiliaid allweddol wneud mwy: archfarchnadoedd i symud cynnyrch i’r hanfodion a’r ystod hanfodol, eglwysi a chymunedau i fynd i’r afael â thlodi hylendid a’n gwleidyddion i geisio’n gyson i liniaru realiti tlodi a’i achosion."
Gallwch ymuno â'r mudiad hwn trwy gofrestru ar gyfer yr ymgyrch isod
Bwyd a Thanwydd
Darllenwych Mwy