Ymunwch mewn taith weddi flwyddyn o hyd
Mae pobl yn cael eu gwahodd ar daith weddi flwyddyn o hyd i ddatblygu’u bywydau ysbrydol.
O fyfyrdodau ac ystyriaethau i deithiau cerdded a labrinth gweddi, pob mis bydd pobl yn cael eu harwain drwy wahanol ffyrdd o weddïo, naill ai ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, gyda chyfres o adnoddau ar lein.
Mae’r cwrs Blwyddyn o Weddi wedi’i gasglu at ei gilydd gan Grŵp Ysbrydolrwydd yr Eglwys yng Nghymru a bydd yn dechrau ym mis Medi ar wefan yr Eglwys.
Bydd y gweddïau a fydd yn cael eu cynnig yn gymysgedd o weddi am ein taith bersonol a gweddi am y gymuned ehangach a’r byd. Pob mis bydd thema, darn o’r Beibl, myfyrdod, ffordd benodol o weddïo ac awgrymiadau ar gyfer cerddoriaeth, celf a llyfrau ar gyfer gweddi bellach.
Mae John Lomas, Esgob Aberhonddu ac Abertawe, sy’n cadeirio’r Grŵp Ysbrydolrwydd, yn gwahodd pawb i gymryd rhan.
“Nid yn unig mae gweddi’n ein helpu i ddyfnhau ein ffydd, ond mae’n mynd â ni y tu hwnt i ni’n hunain i’r byd ehangach. Dangoswyd fod eistedd yn dawel gartref mewn gweddi yn helpu i wella ein llesiant yn gyffredinol. Mae’n adeg i ddod at Dduw, beth bynnag rydym yn teimlo ein bod angen ei ddweud.
“Mae geiriau hen weddi 'yn newidiadau a chyfleoedd y byd cyfnewidiol hwn' yn berthnasol i’r byd heddiw; y cyfan sydd wedi’i brofi yn y blynyddoedd diweddar; yr alwad barhaus am gyfiawnder a heddwch, diwedd ar wrthdaro a rhyfel, y pryderon dros yr amgylchedd a hinsawdd gynaliadwy.
“Rwy’n falch iawn o’ch gwahodd chi, ac yn eich annog i ymuno mewn Blwyddyn o Weddi. Mae’n agor, yn syml, gyda dull gwahanol i weddi pob mis. Rhai y byddwch yn gyfarwydd â nhw, rhai y byddwch yn eu hoffi, rhai sy’n newydd, rhai efallai, na fydd y ffordd iawn i chi.
“Mae’n bwysig gweddïo yn y ffordd sydd fwyaf cyfforddus i chi."