Carol i Gymru
Gan ei bod yn annhebygol y bydd gwasanaethau carolau mewn eglwysi eleni, mae hen draddodiad Cymreig yn cael ei ail-godi – canu carolau tu allan i’n cartrefi.
Ymunwch yn “Carol i Gymru” ar noswyl Nadolig trwy ganu un o’ch hoff garolau, Dawel Nos, ar eich trothwy am 7pm.
Mae’n ffordd syml ac effeithiol o ddweud wrth bobl am stori’r Nadolig, dywed y Parch Kevin Ellis, ficer Bro Eleth yn Esgobaeth Bangor sy’n un o’r trefnwyr.
“Gobeithio y bydd Carol i Gymru, yn y cyfnod rhyfeddaf yma ac mewn un eiliad, yn dwyn pobl at ei gilydd, er ein bod ar wahân. Mae ‘Dawel Nos’ yn ein helpu i ganolbwyntio ar rodd bywyd a pha mor fregus yw hwnnw wrth i ni eto fyw, caru a chwerthin gyda’r baban Iesu.”
Dewiswyd Dawel Nos fel y garol i Gymru oherwydd nad yw’n deillio o’r Gymraeg na’r Saesneg. Fe’i cyfansoddwyd yn Awstria ac mae wedi dod yn gyfarwydd mewn nifer o ieithoedd gwahanol.
“Eleni, gyda’r bygythiad o gyfnodau clo a chyfyngiadau uwch ein pennau, mae’n gysur gwybod y gallwn ddal i uno ag eraill, trwy ddychwelyd at ein gwreiddiau yng Ngwlad y Gân a dathlu’r Nadolig mewn ffordd draddodiadol, gan godi ein lleisiau ar draws ein pentrefi a threfi i ledaenu llawenydd a heddwch ar draws Cymru a thu hwnt,” dywedodd y cyd-drefnydd, y Parch Rebecca Sparey-Taylor, Offeiriad Cyfrifol yn Ardal Cenhadaeth Dinbych.
Ychwanega Esgob Bangor, Andy John, “Rwy’n falch iawn bod yr Eglwys yng Nghymru yn gallu cefnogi’r cynllun hwn ac rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ymuno. ‘Dawel Nos’ yw un o’n hoff garolau ac mae’n sôn am rywbeth cryf a disglair mewn cyfnod anodd. Bydd yn rhoi gobaith a llawenydd i lawer o bobl ac yn ein hatgoffa bod goleuni Duw yn gryfach na’r tywyllwch.”
Dysgwch ragor ar dudalen Facebook Carol i Gymru lle gallwch hefyd gofrestru i ddangos eich bod yn cymryd rhan.
Lawrlwytho’r gerddoriaeth ar gyfer Dawel Nos