Ymunwch ag Archesgob Cymru i lanhau traeth
Mae Archesgob Cymru yn gwahodd gwirfoddolwyr i’w helpu i godi sbwriel plastig wrth lanhau traeth y mis hwn.
Bydd yr Archesgob Andrew John yn casglu llond bagiau o sbwriel sydd wedi’i olchi i’r lan neu sydd newydd ei adael ar draethlin yng Ngogledd Cymru, er mwyn helpu i gadw’r ardal yn lân ac yn ddiogel i fywyd gwyllt.
Cynhelir y digwyddiad ar 19 Hydref ar draeth Dinas Dinlle, ger Caernarfon, sydd – oherwyd ei leoliad ar arfordir y gorllewin - yn cael ei daro’n arbennig o galed gan y prifwyntoedd sy’n cario sbwriel, gan gynnwys poteli plastig, rhwydi, cartonau a bagiau, i’r lan.
Bydd yr Archesgob yn cynnal ei sesiwn glanhau traethau cyn uwchgynhadledd yr Eglwys yng Nghymru ar Adfer Afonydd Cymru ym mis Tachwedd. Bydd yr uwchgynhadledd, a drefnir gan yr Archesgob, yn dod â 70 o arweinwyr ynghyd o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys ffermwyr, cynrychiolwyr y diwydiant dŵr, amgylcheddwyr ac academyddion, i ganolbwyntio ar yr argyfwng sy’n wynebu ein hafonydd a dod o hyd i ffyrdd o wella ansawdd dŵr.
Mae'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur yn amcangyfrif bod 14 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd ein cefnforoedd bob blwyddyn, ac mae plastig yn cyfrif am 80% o'r holl falurion morol. Mae plastig yn angheuol i fywyd morol - mae'r Cenhedloedd Unedig wedi amcangyfrif ei fod yn lladd tua miliwn o adar môr a 100,000 o famaliaid morol a chrwbanod bob blwyddyn.
Dywed yr Archesgob Andrew, “Ni all y rhai ohonom sydd wedi bod ar wyliau traeth yr haf hwn fod wedi methu â sylwi faint o blastig sydd bellach i'w weld ar y traeth, ochr yn ochr â’r cregyn môr. Mae’r plastig hwn yn beryglus i’n bywyd gwyllt brodorol, gan ei fod yn eu tagu a’u gwenwyno, yn ogystal â mynd i mewn i’n cadwyn fwyd. Gall glanhau traethau wneud gwahaniaeth ac, i mi, mae’n ffordd bwysig ac ymarferol o ddangos ein bod ni'n malio am ein hamgylchedd, ein hafonydd a'n moroedd gwerthfawr, ac eisiau gofalu amdanyn nhw.
“Rwy’n falch o weld y mudiad hwn yn tyfu ar draws y wlad gyda mwy a mwy o wirfoddolwyr yn cymryd rhan. Ymunwch â mi yn Ninas Dinlle ar Hydref 19 – gadewch i ni ysbrydoli newid.”
Bydd yr holl sbwriel a gesglir yn cael ei ddidoli a'i ailgylchu cymaint â phosibl. Cynghorir gwirfoddolwyr i wisgo menig trwchus a dillad gwrth-ddŵr.
- Byd y sesiwn glanhau'r traeth yn cychwyn am 12 canol dydd ar Hydref 19 ar Draeth Dinas Dinlle, Caernarfon, LL54 5TW