Ymunwch â’r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod – 23 Mawrth
Gwahoddir pobl i gymryd rhan mewn Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod i nodi pen-blwydd cyntaf cyfnod clo COVID ar 23 Mawrth.
Gofynnir iddynt gadw munud o dawelwch am ganol-dydd i gofio’r rhai a fu farw ac i ddangos cefnogaeth i’r rhai a gafodd brofedigaeth.
Caiff y diwrnod ei arwain gan elusen flaenllaw diwedd bywyd Marie Curie gyda chefnogaeth yr Eglwys yng Nghymru, ynghyd â llu o sefydliadau, Aelodau Seneddol a phobl enwog sy’n cefnogi’r diwrnod.
Gwahoddir eglwysi i ganu un gloch, lle’n bosibl, yn union cyn neu’n dilyn y munud o dawelwch. Gallant hefyd ymuno ag adeiladau amlwg eraill drwy ddangos golau melyn gyda’r nos, os gallant.
Mae Marie Curie yn amcangyfrif y cafodd mwy na tair miliwn o bobl brofedigaeth ers dechrau’r pandemig, eto mae llawer wedi methu dweud ffarwel yn iawn i anwyliaid na galaru.
Bydd y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod yn rhoi cyfle i’r genedl a chymunedau i gofio, galaru a dathlu pawb a fu farw a dangos cefnogaeth i’n teuluoedd, cyfeillion a chydweithwyr sy’n galaru.
Caiff pobl eu hannog i gofio anwyliaid drwy weddi, drwy gynnau cannwyll, plannu blodau neu rannu eu profiad o alar a cholled ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cânt hefyd eu gwahodd i gysylltu gyda’r rhai sy’n galaru drwy weddïo gyda nhw , cael sgwrs, anfon cerdyn, neges neu flodau.
Mae Marie Curie yn cynnal cyfres o sgyrsiau ar-lein am alar y gall pobl ymuno â nhw, yn ogystal â chôr rhithiol. Gyda’r nos, am 8pm, bydd cyfle i gymryd rhan mewn ail foment i fyfyrio drwy gynnau canhwyllau, llusernau a ffonau symudol i nodi’r foment ac ymuno gyda gweithwyr rheng-flaen ar shifft nos.
Dywedodd Archesgob Cymru, John Davies, “Bydd 23 Mawrth yn garreg filltir arwyddocaol iawn i ni gyd ac yn neilltuol y rhai a gafodd brofedigaeth oherwydd COVID neu unrhyw reswm arall yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae llawer wedi marw neu wedi gorfod galaru heb gysur eu teuluoedd neu eu ffrindiau o’u cwmpas.
Gobeithiaf y bydd pobl yn dod ynghyd ar gyfer y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod hwn. Bydd yn rhoi amser i ni uno, i fyfyrio ar y golled drasig o fywydau, i gefnogi’r rhai sy’n dioddef ac i obeithio a gweddïo am amser gwell i ddod.
“Felly rwy’n annog pawb ohonoch i neilltuo munud i fyfyrio am 12 canol-dydd ar y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrio ar 23 Mawrth ar gyfer y rhai a fu farw yn ystod y pandemig a chymryd moment i gysylltu â rhywun a gafodd brofedigaeth.”
Mae Marie Curie yn rhybuddio, heb gael y gefnogaeth gywir i bobl a gafodd brofedigaeth, y bydd y trychineb a achosodd y pandemig yn effeithio ar fywydau pobl am genedlaethau.
Dywedodd Matthew Reed, Prif Weithredwr Marie Curie, “Mae angen i ni nodi’r colledion enfawr a welsom eleni a dangos cefnogaeth i bawb a gafodd brofedigaeth yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Ni allwn sefyll o’r neilltu a pheidio cydnabod yr effeithiau a gafodd y pandemig ar y rhai a gafodd brofedigaeth. Gwyddom fod pobl mewn sioc, yn ddryslyd, trist, dig ac yn methu prosesu’r hyn ddigwyddodd.
“Mae’r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ar 23 Mawrth yn rhoi moment i ni fyfyrio, cofio a dathlu bywydau pawb a fu farw yn ogystal â dangos ein cefnogaeth i berthnasau, cyfeillion a chydweithwyr a gafodd brofedigaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn – o Covid ac achosion eraill.”
- I gael mwy o wybodaeth am y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod a sut i gymryd rhan, yn ogystal ag i lawrlwytho adnoddau, ewch i www.mariecurie.org.uk/dayofreflection. #DayofReflection
I gael mwy o wybodaeth a sut i gymryd rhan
Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod