Ymuno â’r daith Carbon Sero Net
Caiff eglwysi eu hannog i ddechrau ar eu taith i ollyngiadau carbon sero net a chymryd camau allweddol i helpu mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae Fframwaith Carbon Sero Net yr Eglwys yng Nghymru yn awr ar gael ar-lein ac mae’n rhoi pecyn cymorth cynhwysfawr i helpu eglwysi i gymryd eu cam cyntaf at sero net.
Lluniwyd y Fframwaith mewn ymateb i’r datganiad ar argyfwng hinsawdd a wnaeth y Corff Llywodraethu ym mis Ebrill 2020 a’r targed o garbon sero net erbyn 2030. Cafodd ei gyflwyno a’i gymeradwyo’n unfrydol yng nghyfarfod mis Ebrill 2022 o’r Corff Llywodraethu.
Mae pedair prif adran i’r adroddiad: gwybodaeth gefndir berthnasol a’r sefyllfa bresennol; y canfyddiadau a heriau allweddol; argymhellion uniongyrchol a chamau gweithredu allweddol y gall gwahanol lefelau o’r eglwys eu cymryd.
Mae’n cydnabod y bydd datgarboneiddio’r Eglwys yn “her sylweddol” ond dywed nad yw gwneud dim yn opsiwn.
Mae’n dweud, “Drwy osod camau graddol a hylaw yn y ddogfen hon, gobeithiwn y bydd y nod sero net yn ymddangos yn rhwyddach ac yn fwy cyraeddadwy. Yr hyn a wyddom yw y galwyd arnom i gyd i ofalu am greadigaeth Duw, i weld y rhyfeddod sydd o’n hamgylch, caru ein cymydog ymhell ac agos drwy fyw mewn perthynas gyfiawn a chariadus gyda phawb. Gallwn helpu i ddatrys anghyfiawnder hinsawdd yn y byd drwy arddangos ein consyrn am y blaned a’n sensitifrwydd a’n gofal tuag at y mwyaf bregus mewn cymdeithas yn awr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu cymryd camau gweithredu uniongyrchol ac uchelgeisiol ar yr hinsawdd nawr.”
I ddechrau ar y daith sero net, caiff eglwysi eu hannog ar lefel leol i weithio drwy’r argymhellion sydd yn nhablau’r cynllun gweithredu a threfnu i gynnal archwiliad ynni o adeilad yr eglwys.
Mae mwy o gymorth ymarferol ar gael yn nogfen Llwybr Ymarferol i Sero Net ar gyfer ein Heglwysi. Mae’r ddogfen newydd gael ei diweddaru ac mae’n cynnig cyngor pwrpasol addas ar gyfer: pob eglwys; eglwysi gyda defnydd canolig o ynni; a’r eglwysi mawr a phrysur hynny sy’n dymuno cynnal prosiectau mwy cymhleth a fyddai’n golygu defnyddio technolegau gwresogi carbon isel.