Ymuno â thon weddi Thy Kingdom Come
Mae Thy Kingdom Come yn fudiad gweddi byd-eang sy’n gwahodd Cristnogion o amgylch y byd i weddïo dros i fwy o bobl ddod i ffydd yn Iesu Grist. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ei gefnogi ers ei sefydlu saith mlynedd yn ôl.
Eleni, rhwng Dydd Iau Dyrchafael a’r Pentecost (26 Mai – 5 Mehefin), bydd Cristnogion o dros 172 o wledydd yn gweddïo’n benodol am dri pheth:
- Y bydd eu ffydd eu hunain yn cael ei gryfhau a’i ddyfnhau
- Y bydd y pump o bobl a ymrwymant i weddïo drostynt yn ddyddiol yn dod i ffydd
- Y bydd yr Ysbryd Sanctaidd yn grymuso pob un ohonom i fod yn fwy effeithlon yn yn tystiolaeth.
Mae Cherry Vann, Esgob Mynwy, yn annog pobl i gymryd rhan. Dywedodd, “Mae gweddïo’r geiriau ‘deled dy Deyrnas’ yn mynegi dymuniad a gobaith i’r byd fod yn lle gwell: yn fyd lle caiff bywydau, perthynas a chymunedau eu seiliedig ar gariad, cyfiawnder, rhyddid a heddwch a ganfyddwn drwy ffydd yn Iesu.
“Rwy’n eich annog i ddefnyddio’r 11 diwrnod hwn i weddïo dros adnewyddu eich ffydd, dros rymuso yr Ysbryd Glân ac i bump o bobl yr ydych yn eu hadnabod i ddod i ffydd yn Iesu Grist.
Mae gwefan The Kingdom Come yn llawn adnoddau i gefnogi gweddïau, yn cynnwys Nolen (sydd hefyd ar gael yn y Gymraeg) a Dyddlyfr Gweddi. Ysgrifennwyd y ddau gan Archesgob Caergaint.