Galwad Lambeth ar Urddas Dynol – Datganiad yr Archesgob
Mae Archesgob Cymru heddiw (2 Awst) wedi cadarnhau Galwad Cynhadledd Lambeth yn cadarnhau urddas pob unigolyn.
Mewn datganiad, dywedodd yr Archesgob Andrew John na fyddai byth yn cilio ymaith o wrthwynebu gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu rhywioldeb a’u hunaniaeth rhywedd ond ei fod yn parhau’n ymroddedig i wrando a chyd-gerdded gyda’r rhai yn y Cymun Anglicanaidd sy’n anghytuno gydag ef.
Mae’r datganiad llawn yn dilyn.
Canmolodd yr Archesgob Andrew hefyd lythyr a gyhoeddwyd i bob esgob gan Archesgob Caergaint cyn y drafodaeth am gael effaith unedig ar y Gynhadledd. I gael mwy o wybodaeth am y drafodaeth a geiriad llythyr yr Archesgob Justin gweler:
Datganiad Archesgob Cymru
Duw cariad yw! Mae’r cariad hwn a ddatgelwyd gan yr Iesu, a ddisgrifiwyd yn yr Ysgrythurau ac a ddatganwyd yr Eglwys, yn Newyddion Da i bawb, yn ddieithriad. Mae’r Beibl yn ein haddysgu fod pobl LGBT+ yn rhan werthfawr o gread Duw, gan fod pob un ohonom yn “ofnadwy a rhyfeddol” (Salm 139.14) a chaiff pob un ohonom ein caru’n gyfartal. Rwy’n croesawu Galwad Lambeth yn cadarnhau urddas pob unigolyn.
Rwy’n cydnabod y cafodd llawer o bobl LGBT+ eu brifo gan yr Eglwys drwy gydol hanes, a hefyd gan ddigwyddiadau’r ychydig wythnosau diwethaf. Rwy’n dymuno cadarnhau sancteiddrwydd eu cariad at ei gilydd mewn perthnasoedd ymroddedig.
Ymrwymaf i weithio gyda’n cyfeillion yng Nghrist ar draws y Cymun i wrando ar eu straeon a deall eu cyd-destunau, sy’n amrywio’n fawr. Ni fyddaf byth yn cilio ymaith rhag gwrthwynebu gwahaniaethu a rhagfarn yn erbyn plant Duw ar sail eu rhywioldeb a’u hunaniaeth rhywedd.
Gyda’n gilydd, byddwn yn datgan iachâd a gobaith Crist i’n byd drylliedig a gweddïo am y dydd pan fydd yr Eglwys yn gwirioneddol groesawu, gwerthfawrogi a chadarnhau holl bobl Duw. Gydag esgobion y Cymun, rwy’n parhau’n ymroddedig i wrando a cherdded gyda’n gilydd er ein anghytundeb ar y mater hwn.
+Andrew Cambrensis