Datganiad yn dilyn achos llys y Parchg Samuel Erlandson
Mae'r Parchedig Samuel Erlandson wedi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno ac wedi cyfaddef dau gyhuddiad o wneud delweddau anweddus o blentyn ac un cyhuddiad o fod a delwedd bornograffaidd eithafol yn ei feddiant.
Cafodd ei ddedfrydu i 32 wythnos yn y carchar, wedi eu gohirio am 18 mis.
Cafodd ei orchymyn hefyd i gofrestru gyda'r heddlu fel troseddwr rhyw am 10 mlynedd ac fe gafodd ei wneud yn wrthrych gorchymyn atal niwed rhywiol am 10 mlynedd.
Cafodd ei orchymyn hefyd i wneud 160 awr o waith di-dal a thalu £272 o gostau.
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi'i ffieiddio a'i thristáu bod un o'i glerigwyr wedi cyflawni troseddau mor ddifrifol. Mae ein gweddïau gyda'r dioddefwyr yn yr achos hwn, a phawb sydd wedi cael eu cam-drin.
Mae tîm diogelu'r Eglwys yng Nghymru wedi gweithio'n agos gyda'r heddlu a'r awdurdodau statudol byth ers i'r troseddau hyn ddod i'r amlwg. Yn syth ar ôl iddo gael ei arestio, cafodd caniatâd Mr Erlandson i weinyddu fel clerig ei ddileu. Unwaith bod yr achos troseddol wedi ddod i ben, bydd Tribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru yn ystyried camau priodol pellach.
Nid oes lle i unrhyw fath o gamdriniaeth yn yr Eglwys yng Nghymru. Rydym yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i ofal ac amddiffyniad plant a phobl agored i niwed yn ein cymunedau. I'r perwyl hwn rydym yn adolygu ein gweithdrefnau diogelu yn rheolaidd ac yn darparu hyfforddiant helaeth i staff a gwirfoddolwyr.
Rydym yn annog unrhyw un sydd â phryderon diogelu i gysylltu ag aelod o'n tîm drwy wefan yr Eglwys yng Nghymru:
- Gwefan: https://www.churchinwales.org.uk/en/safeguarding/reporting-safeguarding-concern/
- Ffôn: 02920 348200
Fel arall, mae Safe Spaces yn wasanaeth cymorth annibynnol am ddim, sy'n darparu gofod cyfrinachol, personol a diogel i unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin trwy eu perthynas ag Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr neu'r Eglwys yng Nghymru.
Gallwch gysylltu â'r tîm Mannau Diogel drwy:
- Gwefan: www.safespacesenglandandwales.org.uk
- Ffôn: 0300 303 1056 (ffôn ateb ar gael y tu allan i'r oriau agor)
- E-bost: safespaces@fear-less.org.uk
Dylai unrhyw un sydd â phryderon neu wybodaeth am yr achos hwn gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar eu sgwrs fyw gan ddyfynnu cyf Q179109.