Cwrs newydd i helpu dysgwyr i brofi gwasanaethau eglwysig yn Gymraeg
Mae Esgobaeth Bangor wedi lansio cwrs newydd sbon i helpu’r rhai sy’n dysgu Cymraeg i brofi gwasanaethau eglwysig drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nod y cwrs blasu ar-lein, sy’n 10 awr o hyd, yw rhoi blas ar y Gymraeg i ddysgwr ar bob lefel. Mae rhan gyntaf y cwrs yn cyflwyno dysgwyr i ymadroddion sgyrsiol sylfaenol. Mae’r ail ran wedi’i theilwra’n gyfan gwbl tuag at yr eglwys a’r ffydd Gristnogol, ac mae’n helpu dysgwyr i adrodd Gweddi’r Arglwydd yn Gymraeg a deall cymundeb syml. Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd dysgwyr yn deall ynganiadau ac ymadroddion Cymraeg yn well, a fydd yn eu helpu i gymryd rhan mewn gwasanaethau eglwysig yn Gymraeg.
Mae’r cwrs wedi cael ei groesawu gan Archesgob Cymru, Andrew John, sydd hefyd wedi dysgu Cymraeg: “Fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg, rwy’n falch iawn bod y cwrs defnyddiol ac ymarferol hwn ar gael i ddysgwyr brofi gwasanaethau eglwysig yn Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i’r Eglwys yng Nghymru gynnig cwrs o’r fath a fydd yn galluogi pobl i ddysgu ymadroddion a geiriau Cymraeg sy’n gysylltiedig â gwasanaethau eglwysig nad ydynt yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau Cymraeg yn aml.
“Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymrwymedig i dyfu eglwysi Cymraeg a’n gobaith yw y bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs yn teimlo’n hyderus yn mynychu gwasanaeth Cymraeg a, gydag amser, yn dod yn aelodau o’r gymuned honno."
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymrwymedig i dyfu eglwysi Cymraeg
Mae gan Esgobaeth Bangor ymrwymiad cryf i hyrwyddo’r Gymraeg ac annog pobl i ddysgu’r iaith. Yn 2022, derbyniodd yr esgobaeth y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg i gydnabod ei hymrwymiad cadarn i hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg. Mae’r esgobaeth yn cyflogi Elin Owen fel Galluogwr y Gymraeg a’i rôl hi yw cefnogi’r esgobaeth i barhau i wella ei harlwy Cymraeg.
Dywedodd Elin, “Mae’r gefnogaeth y mae’r esgobaeth yn ei rhoi i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg yn wych ac mae’r brwdfrydedd yma i ddysgu’r iaith yn wirioneddol galonogol.
“Rydym yn cefnogi staff ac offeiriaid i ddysgu Cymraeg drwy fuddsoddi mewn cyrsiau a darparu cynllun dysgu personol ar eu cyfer. Rydym wedi gweithio gyda chynllun cenedlaethol Iaith Gwaith i gynnal cwrs pregethu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Mae llawer o’n hoffeiriaid a’n staff yn mynychu cyrsiau preswyl yno yn rheolaidd hefyd ac maen nhw wrthi’n gweithio eu ffordd drwy’r cwrs newydd.”
Dywedodd Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth â sectorau a sefydliadau gwahanol i ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r Gymraeg. Mae’n bleser gennym gyflwyno’r cwrs diweddaraf hwn ar gyfer y sector eglwysi.”