Cymuned Ddysgu yn canolbwyntio ar Ardaloedd Gweinidogaeth a Chenhadaeth
Bydd pobl o bob rhan o Gymru yn cwrdd fis nesaf i gronni eu profiad o fath newydd o strwythurau eglwys a elwir yn Ardaloedd Gweinidogaeth neu Genhadaeth.
Bydd mwy na 70 o bobl, yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’n chwech esgobaeth, yn ymgynnull ar gyfer Cymuned Ddysgu Esgobaethol ddeuddydd i rannu eu straeon, yr heriau a hefyd y cyfleoedd, ac i drafod problemau cyffredin.
Aeth mwy na degawd heibio ers i’r broses o newid model hynafol plwyfi i fod yn Ardaloedd Gweinidogaeth a Chenhadaeth ddechrau, yn dilyn adolygiad annibynnol o’r bon i’r brig o’r Eglwys yng Nghymru yn 2012.
Mae pob plwyf yn awr wedi eu huno yn ardaloedd mwy a gaiff eu gwasanaethu gan dîm o weinidogion lleyg ac ordeiniedig, yn cynnig gweinidogaeth draddodiadol a hefyd flaengar ac yn rhannu adnoddau. Cafodd y term Ardaloedd Cenhadaeth ei ddefnyddio yn Esgobaeth Llanelwy, yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gyda gweddill Cymru yn defnyddio term Ardaloedd Gweinidogaeth
Ffocws Cymuned Ddysgu Esgobaethol eleni fydd clywed sut mae’r Ardaloedd yn gweithredu a sut y gallent wasanaethu eu cymunedau gyda gobaith ac egni. Bydd y rhai sy’n mynychu yn cynnwys esgobion, arweinwyr tîm, swyddogion esgobaethol a chynghorwyr taleithiol. Mae’r agenda yn cynnwys chwe sesiwn sy’n cynnwys cyflwyniadau ar wytnwch emosiynol a llesiant, safbwyntiau personol gan ystod o bobl, galwedigaeth arweinyddiaeth a hyfforddiant, cyllid a gweinyddiaeth, a gofalu am adeiladau’r eglwys. Bydd ffocws un sesiwn ar sut olwg allai fod ar ardal Gweinidogaeth/Cenhadaeth iechyd. Daw pob diwrnod i ben gyda myfyrdod gan yr Esgob Tim Thornton, a wasanaethodd fel Esgob yn Lambeth cyn iddo ymddeol. Caiff amser ei neilltuo ar gyfer gweddi ac addoli ar y ddau ddiwrnod.
Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, yn y llun, fydd yn cyflwyno’r cyfarfod y bydd yn gyfle i bobl i “gwrdd, gweddïo, gwrando a dysgu gan ei gilydd”.
Meddai, “Mae Ardaloedd Cenhadaeth a Gweinidogaeth nawr wedi sefydlu’n gadarn ym mhob un o’r esgobaethau, ond rydym yn dal i ddysgu sut i fyw’n fwyaf ffrwythlon o fewn y strwythur newydd hwn. Beth mae’n ei olygu i rannu adnoddau, adeiladau, gweinidogaeth a rhannu gobaith cyffredin dros ein gilydd? Beth yw gwerth yr eglwys neilltuol o fewn y grwpiad mwy yma? Mae’r rhain yn gwestiynau y bydd angen i ni eu hymchwilio os ydym i aeddfedu gydag egni a ffocws.”
Cyfarfod y Gymuned Ddysgu Esgobaethol yw’r ail gynulliad o’r fath, yn cynnwys un y llynedd. Fe’i cynhelir ar 4-5 Tachwedd yng Ngwesty Albrighton Hall, yr Amwythig.