Ymunwch â’r ymgyrch Gweddi dros Ysgolion
Ymunwch â’r ymgyrch Gweddi dros Ysgolion er mwyn sicrhau gweddi dros ein holl ysgolion, meddai’r Barch. Catrin Roberts o Eglwys Bresbyteraidd Cymru
Pan oeddwn i’n ddisgybl ysgol ers talwm, doedd fy atebion mewn gwersi mathemateg ddim yn gywir bob amser, ond mae’r hafaliad uchod wedi profi’n gywir ac effeithiol iawn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gwelwyd Cristnogion o amrywiol gefndir ac enwad ar draws Cymru, pobl sydd â chonsyrn gwirioneddol dros ysgolion (yn ddisgyblion, athrawon, penaethiaid a staff arall) yn cyfarfod i weddïo. Bu Duw yn dda yn darparu adnodd i hwyluso hyn, sef Zoom. Sut arall y byddai pobl, yn Gymry Cymraeg a di-Gymraeg, yn bobl broffesiynol ym myd addysg, yn neiniau/teidiau, gweithwyr plant ac ieuenctid, gweinidogion, yng Ngwynedd, Caerdydd, y Gogledd Ddwyrain, y Cymoedd a’r Canolbarth etc etc, yn gallu cyfarfod â’i gilydd o’u cartrefi i weddïo dros ysgolion Cymru.
Mae’r cyfarfodydd gweddi hyn yn cael eu trefnu gan adran Cymru o’r mudiad Pray For Schools. Tri chwarter awr yw hyd y cyfarfodydd ac maent yn cael eu cynnal naill am 12.30 neu 7.00yh. Bydd dau sy’n gweithio yn y maes yn rhoi arweiniad byr ac yn awgrymu pynciau gweddi penodol e.e. iselder, iechyd meddwl ymhlith staff a disgyblion, ofnau am arholiadau allanol, effaith y cyfnod clo ar hyder ac ymddygiad plant ac ieuenctid, effaith problemau ariannol ar deuluoedd, pwysau gwaith dwys ar athrawon a gweinyddwyr, yr angen am fwy o adnoddau ariannol.
Gall pawb weddïo yn eu dewis iaith gan fod y mynychwyr yn cael eu hanfon yn rhithiol i ystafelloedd gweddi Cymraeg neu Saesneg.
Bydd y Cyfarfod Gweddi nesaf am 12.30 ar Fehefin 30, 2022 a bydd modd cael linc oddi ar wefannau’r enwadau yn nes at y dyddiad. Mae modd hefyd i archebu lle trwy wefan www.eventbrite.co.uk/e/pray-for-schools-in-wales-prayer-zoom-tickets.
Bwriad hyn oll yw sicrhau y bydd pob ysgol yn destun gweddi gennym fel unigolion, fel eglwysi ac fel rhwydwaith Gweddi dros Ysgolion.
Beth am ymuno â ni y tro nesaf a gwneud eich ysgolion lleol chi yn destun gweddi!