'Beth am wrando i glywed yr Angylion?'
Neges y Nadolig - Esgob Llanelwy, Gregory Cameron
Fy ngharol Nadolig am 2020 yw Ar hanner nos yn glir y daeth. Rwy’n siŵr bod llawer ohonoch yn gyfarwydd â hi ac y byddwch yn ei chanu’r Nadolig hwn, ond mae’n dweud rhywbeth hynod briodol. Mae’r garol, a ysgrifennwyd yn Saesneg ym 1849 gan Edmund Sears , yn sôn am dywyllwch y byd ond yn ein hannog i wrando am neges yr angylion:
O dyro i’r lluddedig hedd, I wrando’r nefol gân!
Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn ofnadwy: mae’r firws wedi costio llawer i ni, mewn bywydau, mewn bywoliaeth, mewn ffordd o fyw, a, gyda newyddion am gyfnod clo newydd, mae'n debyg ein bod yn teimlo'n hynod ddiflas. Ac eto, dyfalbarhad ddylai fod ein harwyddair gan obeitho y daw caethiwed y firws i ben yn 2021 wrth i’r raglen frechu ddatblygu. Ond, gan gydnabod y diflastod, mae’r garol yn ein hannog i wrando ar neges yr angylion fel, yn ôl y Beibl, y cafodd y bugeiliaid, yn oerfel eu caeau ac yn gweithio trwy’r nos, eu synnu gan gôr o angylion yn yngan geiriau o newyddion da a thangnefedd wrthyn nhw.
Mae’n annhebyg y bydd yna gôr o angylion yn canu i ni, ond mae yna neges i ni wrth ‘wrando ar y nefol gan'’ – i ganolbwyntio ac ystyried y newyddion DA y flwyddyn hon, ar ddewrder ac ymroddiad y rhai sydd wedi'n gwasanaethu yn y byd meddygol, tosturi a gofal cymydog wrth gymydog a chariad ffrindiau a pherthynasau.
I mi, fel Cristion, bydd hynny'n golygu gallu myfyrio ar enedigaeth plentyn sy'n rhodd gan Dduw i ni, Iesu, y gallwn ni ganfod ffordd o fyw yn ei ddysgeidiaeth a darganfod y posibilrwydd o gariad, llawenydd a heddwch yn ei fywyd. Beth am wrando i glywed yr angylion:
Gogoniant y Dduw yn y goruchaf a thangnefedd ar y ddaear i ddynion o ewyllys da.