Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer y Frenhines yng Nghadeirlan Llandaf
Archesgob Cymru fydd yn rhoi’r anerchiad yng Ngwasanaeth Cenedlaethol Cymru i gofio’r Frenhines, a fynychir gan y Brenin a’r Frenhines Gydweddog.
Cynhelir y gwasanaeth o weddi a myfyrdod ddydd Gwener yng Nghadeirlan Llandaf. Wedi’i drefnu gan Lywodraeth Cymru, mae presenoldeb drwy wahoddiad yn unig ond caiff ei ddarlledu’n fyw gan y BBC er mwyn i bawb fedru ymuno.
Arweinir y gwasanaeth gan Ddeon Dros Dro Llandaf, Michael Komor a bydd Esgob Llandaf, June Osborne, yn arwain y gweddïau. Hefyd yn cymryd rhan fydd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn darllen llith a chynrychiolwyr eglwysi a chymunedau ffydd eraill yng Nghymru fydd yn darllen gweddïau.
Bydd y côr yn canu anthem Gweddi Gymreig, a gyfansoddwyd gan Paul Mealor gyda geiriau gan Dr Grahame Davies. Bydd cyfeiliant gan ddwy delyn, a gaiff eu canu gan Alis Huws, telynores swyddogol Tywysog Cymru a Catrin Finch, cyn delynores Frenhinol.
Dywedodd yr Archesgob, Andrew John, “Mae’n anrhydedd i’r Eglwys yng Nghymru gynnal y gwasanaeth hwn lle byddwn yn cofio am fywyd a chyfraniad y Frenhines Elizabeth II. Diolchwn i Dduw am ei hymroddiad i’r genedl a’r Gymanwlad a sut y bu’n batrwm o wasanaeth cyhoeddus cwbl ddihunan. Wrth i ni alaru am ei marwolaeth, gweddïwn dros ein Brenin newydd a’r Teulu Brenhinol yn eu trallod.”
Dywedodd y Deon Dros Dro, “Y mae, wrth gwrs, yn anrhydedd enfawr i Gadeirlan Llandaf gael cais i gynnal y gwasanaeth gweddi a myfyrdod dros ein diweddar Frenhines, yma yng Nghymru. Nid oes enwad sefydledig, cenedlaethol, yng Nghymru ond gwn bod y nifer fawr o addolwyr yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, ynghyd ag aelodau o’r holl Eglwysi Cristnogol a phobl o ffydd arall hefyd yn ystyried Ei Mawrhydi yn enghraifft ysbrydoledig ardderchog a wnaeth fyw ei holl fywyd yn ôl ei hegwyddorion crefyddol. Rydym yn wir yn diolch i Dduw amdani, ac yn gweddïo y caiff orffwys mewn hedd.
“Gweddïwn hefyd am roddion Duw o gysur a gobaith i’r Brenin newydd a’r Teulu Brenhinol yn ehangach ar yr adeg hon o brofedigaeth iddynt.”