Rôl newydd bwysig i ficer yng Nghaerdydd
Bydd tiwtor diwinyddiaeth sydd hefyd yn arwain eglwys brysur yng Nghaerdydd yn helpu i ddatblygu gweinidogaeth ar draws Cymru mewn rôl newydd allweddol ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru.
Penodwyd y Canon Ddr Trystan Owain Hughes yn gyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth cyntaf yr Eglwys. Bydd yn cefnogi clerigwyr a lleygwyr mewn gweinidogaethau presennol a newydd wrth i’r Eglwys fuddsoddi mewn twf.
Yn wreiddiol o Benmaenmawr, treuliodd Dr Owain Hughes y rhan fwyaf o’i weinidogaeth yng Nghymru. Am y naw mlynedd ddiwethaf gwasanaethodd fel Ficer Eglwys Crist, Parc y Rhath (Ardal Gweinidogaeth Gogledd Caerdydd), gan oruchwylio twf a datblygiad sylweddol yno. Mae hefyd yn Diwtor mewn Diwinyddiaeth Gymwysedig yn Sefydliad Padarn Sant Caerdydd, lle cynorthwyodd i ddatblygu MA mewn Diwinyddiaeth, Gweinidogaeth a Chenhadaeth, a ddilyswyd gan Brifysgol Durham. Yn 2019 cafodd ei benodi’n Ganon Ddiwinydd Cadeirlan Llandaf.
Yn awdur toreithiog, mae Dr Owain Hughes wedi cyhoeddi chwe llyfr ar ffydd ac wedi cyflwyno sgyrsiau yn rhyngwladol. Bu’n llais rheolaidd ar y cyfryngau, yn cynnwys cyflwyno ‘Prayer for the Day’ ar BBC Radio 4 a ‘Pause for Thought’ ar BBC Radio 2.
Bydd Dr Owain Hughes yn dechrau ar ei rôl newydd ym mis Chwefror.
Dywedodd Esgob Mynwy, Cherry Vann, yr esgob sy’n arwain ar weinidogaeth, “Rwy’n croesawu penodiad Trystan i’r swydd newydd a chyffrous hon fel Cyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth yn fawr iawn ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef.
“Mae Trystan yn rhugl yn y Gymraeg ac mae ganddo ehangder a dyfnder o wybodaeth, profiad a doethineb yng nghyswllt materion gweinidogaeth yn ogystal â brwdfrydedd a chreadigrwydd heintus. Bydd yn gweithio gyda’r Fainc Esgobion, y Timau Gweinidogaeth Esgobaethol a Sefydliad Padarn Sant i sicrhau ein bod yn canfod, paratoi a chefnogi gweinidogion ordeiniedig a lleyg ar gyfer anghenion a chyfleoedd yr Eglwys heddiw.”
Mae ganddo ehangder a dyfnder o wybodaeth, profiad a doethineb yng nghyswllt materion gweinidogaeth yn ogystal â brwdfrydedd a chreadigrwydd heintus
Dywedodd Dr Owain Hughes, “Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi yn Gyfarwyddwr Datblygu Gweinidogaeth ar adeg pan fo’r Eglwys yng Nghymru yn meddwl am weinidogaeth gyda chreadigrwydd a gweledigaeth ffres. Mae gweinidogaeth Gristnogol yn hyrwyddo cariad Duw, cyfiawnder a thrugaredd drwy gefnogi a thrawsnewid cymunedau, sydd mor bwysig ar adegau fel hyn pan ydym yn wynebu argyfwng mewn costau byw. Bydd y rôl yn cynorthwyo a chefnogi’r Eglwys wrth ysbrydoli, annog a gofalu am y rhai sy’n ymwneud yn ein holl weinidogaethau amrywiol a chyffrous, a hefyd y rhai sy’n canfod eu galwadau eu hunain i weinidogaeth, nid yn lleiaf gan y rhai o grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn ein heglwysi.”
Dywedodd Simon Lloyd, prif weithredwr yr Eglwys yng Nghymru, “Rwy’n falch iawn i groesawu Trystan i’w rôl fel rhan o dîm cenedlaethol yr Eglwys yng Nghymru ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef yn y rôl newydd hollbwysig yma.
Taith gweinidogaeth
Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd doethuriaeth, dechreuodd Dr Owain Hughes ar yrfa yn y byd academaidd fel pennaeth diwinyddiaeth ac astudiaethau crefyddol yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin. Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Neuadd Wycliffe Rhydychen chafodd ei ordeinio fel offeiriad yn 2007. Bu ganddo nifer o swyddi yn Esgobaeth Llandaf, yn cynnwys Caplan Prifysgol Caerdydd, Cyfarwyddwr Ordinandau a Chyfarwyddwr Galwedigaethau.
Mae ei lyfrau yn cynnwys Winds of Change (UWP 1999), Finding Hope and Meaning in Suffering (SPCK 2010), The Compassion Quest (SPCK 2013), Real God in the Real World (BRF 2013), Living the Prayer (BRF 2017), ac Opening our Lives (BRF 2020).
Mae hefyd yn ysgrifennu blog rheolaidd yn https://trystanowainhughes.wordpress.com/