Gwnewch i’ch bleidlais gyfrif – yr Etholiad Cymru
Mae pleidleisio yn hawl y bu brwydro caled amdano ac yn gyfrifoldeb, medd esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn eu datganiad etholiadol.
Maent yn annog pawb, ac yn neilltuol bobl ifanc 16 a 17 oed a all bleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru, i bleidleisio ar 6 Mai ac i wneud hynny mewn ffordd wybodus.
Y chwe esgob yw: Archesgob Cymru ac Esgob Abertawe ac Aberhonddu, John Davies; Esgob Bangor, Andy John; Esgob Llanelwy, Gregory Cameron; Esgob Tyddewi, Joanna Penberthy; Esgob Llandaf, June Osbonr;e ac Esgob Mynwy, Cherry Vann.
Mae’r datganiad llawn yn dilyn.
Datganiad Etholiadol
Eleni, am y tro cyntaf, mae gan bawb dros 16 oed yng Nghymru y cyfle i benderfynu dyfodol eu gwlad. Daw hynny ar adeg pan fu effaith Llywodraeth Cymru yn amlycach nag erioed o’r blaen oherwydd ei hymateb i bandemig COVID-19.
Yr etholiadau i Senedd Cymru a’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ar 6 Mai yw ein cyfle i ddylanwadu cymaint ar ein bywyd cyffredin – sut y cawn ein haddysgu, ein hiechyd a’n llesiant, ein tai, economi, trafnidiaeth, diwylliant, gwasanaethau llywodraeth leol a’r gofal a roddir i’n hardaloedd gwledig. Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn dal yr heddlu i gyfrif, gosod cyllidebau a sefydlu blaenoriaethau mewn cyfraith a threfn. Drwy’r etholiadau i Senedd Cymru a hefyd am y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, mae gennym gyfle i lunio gwerthoedd a blaenoriaethau Cymru i’r dyfodol.
Pleidleisio yw sylfaen byw mewn democratiaeth – mae’n hawl y bu brwydro caled drosto. Mae’n hefyd yn gyfrifoldeb arnom Mae’n gyfrifoldeb arnom i bleidleisio’n dda – nid yw hynny’n golygu pleidleisio yn ddifeddwl dros berson neu blaid neilltuol ond i bleidleisio mewn ffordd wybodus. Rhowch amser i ddarllen y maniffestos, i siarad gyda’r ymgeiswyr a hyd yn oed eu holi yn rhai o’r llu o ddigwyddiadau hysting ar-lein a gynhelir. Os na chymerwn ein pleidlais o ddifri, nid oes gennym neb heblaw ni’n hunain i’w feio pan aiff pethau o chwith.
Fel Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, rydym yn eich annog, ac yn arbennig bleidleiswyr newydd, i bleidleisio dros les eich holl gymuned ac er y budd cyffredin.
Mae dyfodol Cymru yn ein dwylo i gyd – gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth a gwneud i bob pleidlais gyfrif.
Her yr etholiad gan Esgob Bangor
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer etholiadau'r Senedd ar Fai 6, mae Esgob Bangor, Andy John, yn gofyn: Beth fyddwch chi'n pleidleisio amdano?
Mwy o wybodaeth am yr etholiadau
Mae mwy o wybodaeth am yr etholiadau ar 6 Mai, yn cynnwys sut i gofrestru i bleidleisio, beth yw’r materion a sut i gynnal cyfarfodydd hysting, ar gael drwy ddilyn y dolenni dilynol:
Senedd Cymru
- https://senedd.cymru/etholiad/
Tîm ar y Cyd Materion Cyhoeddus
- http://www.jointpublicissues.org.uk/elections/wales/
- http://www.jointpublicissues.org.uk/elections/police-and-crime-commissioner-election-2021-guide/
Cytun – Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
Gweddi
Gweddi gan Canon Carol Wardman
sydd am greu cymdeithas sy’n cydgordio ac yn ffynnu.