Gawn ni wybod heddwch Duw y Nadolig hwn
"Gogoniant i Dduw yn y goruchaf ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd.”
Adnod adnabyddus yw geiriau agoriadol y llythyr hwn o hanes geni Iesu yn yr Efengyl yn ôl Sant Luc. Mae bron iawn bob un ohonom yn gyfarwydd â’r stori am y bugeiliaid allan ar y bryniau'n gofalu am eu praidd, pan, yn sydyn, ymddangosodd côr o angylion yn sôn am eni Iesu. Roedd y neges yng ngeiriau’r angel yn eithaf amlwg, fod yr enedigaeth newydd yn achlysur oedd yn addo “Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymhlith dynion sydd wrth ei fodd) (Luc 2.14 - mae fersiwn hŷn ond llai cywir yn dweud “i ddynion o ewyllys da”).
Mae’r rhain yn eiriau o gysur i ni yn y dyddiau hyn o Covid a thyndra rhyngwladol. Neges y Nadolig yw bod Duw’n yn bwriadu Tangnefedd i’r rhai sydd wrth ei fodd, a chan fod Duw’n caru pob un ohonom, mae honno’n neges i bob un a fydd yn ei derbyn. Y peth cyntaf i'w nodi yw bod y ffydd Gristnogol yn dysgu fod pob un ohonom yn unigryw ac yn greadigaeth arbennig yn llygaid Duw, o werth anrheithiol ac yn wrthrych boddhad i Dduw. Ydyw, mae hynny’n golygu pawb ohonom ni. Ac nid yw ei rodd o Heddwch yn beth ysgafn. Pan mae Heddwch yn cael ei grybwyll yn y Beibl, mae'n golygu, nid yn unig ddiwedd gwrthdaro neu absenoldeb sŵn a chythrwfl, ond cyfoeth o fywyd a bendith, wedi’i wasgu ac yn gorlifo. Adnabod Heddwch ar delerau Duw yw adnabod cyflawnder a llawnder bywyd.
Gallai hyn ymddangos yn rhywbeth optimistig, a hyd yn oed yn wirion, i’w ddweud yn ein hamgylchiadau ni heddiw. Mae’r amrywiolyn Omicron yn fygythiad newydd i’n bywydau, ac, wrth i ni ddechrau paratoi at y Nadolig unwaith eto, mae nodyn arall o ansicrwydd wedi’i ychwanegu. Efallai ein bod yn dal i deimlo'n glwyfedig a hyd yn oed yn alarus ar ôl digwyddiadau’r deunaw mis diwethaf. Ond, pwynt y Nadolig i’r Cristion yw bod Duw wedi rhoi ei Fab yn rhodd i ni yng ngenedigaeth Iesu, rhoi Gair Duw i’w eni ym Methlehem er mwyn iddo allu byw yn ein plith a derbyn arno ei hun feichiau a phoen y byd. Y neges yw bod Duw ar ein hochr ni, ac mae’n ein dysgu, hyd yn oed yng nghanol tywyllwch, ein bod yn gallu canfod nerth a gobaith a sicrwydd, fod yna elfen na ellir ei choncro mewn bywyd yn Nuw sydd yn drech hyd yn oed na therfynau marwolaeth.
Arferai athrawon yr Eglwys gynnar ddweud rhywbeth fel hyn: Yn Iesu, mae Duw wedi nesáu atom ni fel y gallwn ni nesáu ato ef. Gwahoddiad gwirioneddol y Nadolig, felly, yw gofyn a fyddwn ni’n gwneud lle i Dduw yn ein bywydau - rhoi gogoniant i Dduw yn y goruchaf - fel y gallwn ni gydio yn, a chofleidio yn ein bywydau ni ein hunain, y lle y mae ef yn ei wneud i ni yn Iesu, y rhodd o fywyd tragwyddol, gobaith y nefoedd, heddwch yn ei holl gyflawnder,
Fy ngweddi i chi y Nadolig hwn yw bydded rhodd Duw o heddwch ddod yn wirionedd i chi, ac, ynddo ef, bydded i chi ganfod bendith, a gobaith a chariad, fel y bydded i ni ymuno gyda neges yr angylion a gwneud eu can yn gan i ni Nadolig Llawen!