Mesur carbon eich eglwys gyda’r Offeryn Ôl-troed Ynni
Caiff eglwysi eu hannog unwaith eto i fesur eu ôl-troed carbon gyda chyfrifiannell ar-lein yr Offeryn Ôl-troed Ynni.
Yn ffordd gyflym a rhwydd i eglwysi ganfod eu hallyriadau carbon, caiff yr Offeryn Ôl-troed Ynni blynyddol ei agor unwaith eto eleni, ym mis Mehefin, ar gyfer cyflwyno data ynni 2023.
Fel o’r blaen, gall clerigwyr a gwirfoddolwyr fewnbynnu data o’u biliau cyfleustodau blynyddol ar gyfer y llynedd a bydd yr offeryn yn cyfrif ôl-troed carbon eu heglwys yn syth.
Gall gwybod faint o garbon y mae eglwys yn ei gynhyrchu bob blwyddyn eu helpu i gynllunio camau i wella effeithiolrwydd ynni, cymharu canlyniadau gyda blynyddoedd blaenorol i asesu eu cynnydd a’u galluogi, unwaith y mae hynny wedi ei ddynodi, i wrthbwyso eu hallyriadau carbon.
Credaf y bydd hyn yn offeryn rhagorol wrth symud ymlaen gan y gallwch weld yn syth sut mae eich defnydd ynni yn cymharu gyda blynyddoedd blaenorol
Y llynedd, manteisiodd eglwysi ar draws y Dalaith o ddefnyddio’r offeryn am y tro cyntaf. Canfu llawer fod eu ôl-troed carbon yn gymharol gynnil ac y gallent wrthbwyso eu hallyriadau yn eithaf rhwydd i fod yn sero-net gyda mân fesurau effeithiolrwydd.
Dywedodd Ann Edwards, Trysorydd Ardal Cenhadaeth Tanat Efyrnwy, fod yr Offeryn Ôl-troed Ynni yn rhwydd ei ddefnyddio: “Fel Trysorydd Ardal Cenhadaeth mae gennyf fynediad i’r holl wybodaeth ynni sydd ei angen (biliau ynni eglwysi unigol) ac roedd yn gyflym ac yn rhwydd rhoi’r wybodaeth ar y system. Credaf y bydd hyn yn offeryn rhagorol wrth symud ymlaen gan y gallwch weld yn syth sut mae eich defnydd ynni yn cymharu gyda blynyddoedd blaenorol ac os oes meysydd y gellid mynd i’r afael â nhw i wella eich ôl-troed.’
Ar gyfer y rhai sy’n defnyddio mwy o ynni, rhoddodd yr Offeryn Ôl-troed Ynni y dystiolaeth angenrheidiol iddynt o’u heffaith uwch i’w sbarduno i weithredu i ostwng eu allyriadau carbon.
Dywedodd y Parch Gregor Lachlann-Waddell, Esgobaeth Llanelwy: “Roedd yn weddol rhwydd defnyddio’r Offeryn Ôl-troed Ynni ac roedd yn ffordd dda o roi dealltwriaeth i fi o ôl-troed carbon a defnydd ynni fy eglwys. Fel rhywun sydd hefyd yn llenwi Arolygon Eglwysi Eco ar gyfer eglwysi yn yr esgobaeth, mae cael Offeryn Ôl-troed Ynni yn ddefnyddiol gan ei fod yn golygu y gallaf dicio’r blwch yn yr arolwg sy’n dweud, ‘Ydych chi wedi cynnal ôl-troed carbon ar gyfer eich Eglwys’. Mae gwybod beth yw llinell sylfaen carbon fy Eglwys yn golygu y gallaf ei ddefnyddio fel canllaw ar gyfer ystyried datrysiadau gwresogi carbon isel wrth ddiweddaru systemau gwresogi pan fyddwn yn symud ymlaen i ail-drefnu ein heglwysi.”
“Mae’r Offeryn Ôl-troed Ynni hefyd yn offeryn asesu defnyddiol ar lefel y Dalaith”, meddai Julia Edwards, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd. “Rydyn ni wedi medru defnyddio data crynodeb yr Offeryn i adnabod ein defnyddwyr ynni uchel a hefyd i gysylltu gydag eglwysi sydd wedi cofnodi lefelau uwch o allyriadau na’r disgwyl, er mwyn cynnig mwy o gefnogaeth iddynt. Heb yr Offeryn Ôl-troed Ynni, ni fyddai cyd-destun pob eglwys wedi dod i’r amlwg.”
Bydd angen i unrhyw eglwys sy’n cofrestru i ddefnyddio’r offeryn am y tro cyntaf gael cyfrinair unigryw i’w galluogi i gofrestru a defnyddio’r Offeryn Ôl-troed Ynni. Mae’r cyfrinair ar gael naill ai gan swyddfa’r esgobaeth neu Dr Julia Edwards, Cyfarwyddwr Newid Hinsawdd yr Eglwys juliaedwards@churchinwales.org.uk
Pan fyddant yn mewngofnodi y tro hwn, eir â’r rhai sydd eisoes wedi cofrestru gyda’r Offeryn Ôl-troed Ynni y llynedd yn uniongyrchol i dudalen berthnasol eu heglwys i gyflwyno eu data ynni ar gyfer 2023.