Arian yn y banc babi

Bydd cannoedd o deuluoedd ifanc o bob rhan o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn derbyn hanfodion i'w plant diolch i grant gan Seiri Rhyddion Gorllewin Cymru i elusen Plant Dewi. Plant Dewi yw prosiect Esgobaeth Tyddewi ei hun, yn cefnogi teuluoedd yn eu cymunedau.
Bydd y grant o £60,000 gan Sefydliad Elusennol y Seiri Rhyddion yn cefnogi prosiect y Banc Bwndel Babi i barhau i ddosbarthu hanfodion mawr eu hangen i deuluoedd â babanod dan 12 mis oed sy'n cael trafferth prynu dillad, taclau molchi, blancedi, cotiau a bygis ac ati. Bydd y prosiect yn derbyn atgyfeiriadau gan deuluoedd ac asiantaethau ledled y rhanbarth i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw fabi fynd heb.
Cyflwynwyd y siec i reolwr Plant Dewi, Catrin Eldred, gan Uwch Feistr Gorllewin Cymru, James Ross, mewn seremoni yng Nghadeirlan Tyddewi ym mhresenoldeb yr Esgob, y Gwir Barchedig Dorrien Davies.
Darllenwch y stori newyddion lawn ar wefan Esgobaeth Tyddewi:
Esgobaeth Tyddewi - Y Newyddion Diweddaraf