Ymchwiliad ac Adolygiad Mynwy
Mae Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru a’r Corff Cynrychiolwyr wedi sefydlu Ymchwiliad i’r digwyddiadau o amgylch ymddeoliad y Gwir Barchedig Richard Pain fel Esgob Mynwy, ac i adolygu’r gweithdrefnau a ddilynwyd a’r penderfyniadau a wnaed gan bawb oedd yn gysylltiedig.
Cadeirydd y Panel Ymchwiliad ac Adolygu fydd y Gwir Barchedig Graham James (yn y llun), a’r aelodau eraill yw Lucinda Herklots a Patricia Russell.
Roedd Graham James yn Esgob Norwich rhwng 1999 a 2019. Ef oedd cadeirydd yr Ymchwiliad Paterson annibynnol a adroddodd i Lywodraeth Ei Mawrhydi ym mis Chwefror eleni.
Roedd Lucinda Herklots yn Ysgrifennydd Esgobaeth ar ran Esgobaeth Caersallog am bron 15 mlynedd tan fis Tachwedd 2018. Ar hyn o bryd mae’n aelod o lwysgor Salisbury ac yn llywodraethwr yr ymddiriedolaeth ysbyty GIG lleol.
Mae Patricia Russell yn gyfreithwraig eglwysig yn arbenigo mewn adnoddau dynol a materion diogelu. Bu’n ddirprwy gofrestrydd Esgobaethau Caerwynt a Chaersallog rhwng 2014 a 2019 ac mae’n awr yn rhedeg ei busnes ymgynghori ei hun.
Dechreuodd y Panel ar ei waith a bydd, maes o law, yn siarad gyda rhai o’r bobl oedd yn ymwneud yn fwyaf agos.
Gobeithir y caiff yr Ymchwiliad a’r Adolygiad eu cwblhau o fewn chwe mis.