Adroddiad Ymchwiliad ac Adolygiad Mynwy
Ym mis Mai sefydlodd y Fainc Esgobion a Chorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru Ymchwiliad ac Adolygiad i’r digwyddiadau o amgylch ymddeoliad y Gwir Barchedig Richard Pain fel Esgob Mynwy ym mis Ebrill 2019 ac i adolygu’r gweithdrefnau a ddilynwyd a’r penderfyniadau a wnaed gan bawb oedd yn gysylltiedig.
Cadeirydd y Panel Ymchwilio ac Adolygu oedd y Gwir Barchedig Graham James a’r aelodau eraill oedd Lucinda Herklots a Patricia Russell.
Cyhoeddwyd yr adroddiad y Panel erbyn hyn, ynghyd â throsolwg ohono a ysgrifennwyd ar ran y comisiynwyr gan yr Uwch Esgob ar y pryd, bellach yr Archesgob, y Parchedicaf Andrew John a chyn gadeirydd y Corff Cynrychiolwyr, James Turner. Mae’r trosolwg yn esbonio y cafodd yr adroddiad ei olygu mewn rhannau er mwyn peidio enwi rhai o’r bobl oedd yn gysylltiedig.
Mae’r Comisiynwyr yn ymrwymo i weithredu argymhellion yr adroddiad yn gyflym ac yn gynhwysfawr. Maent hefyd yn ymddiheuro’n ddirfawr am fethiannau’r Eglwys a amlygir yn yr adroddiad ac, yn neilltuol, y rhai y cafodd eu henwau da, eu gweinidogaethau a’u bywyd gwaith eu niweidio wrth i’r digwyddiadau hyn fynd rhagddynt.
Ym mis Rhagfyr 2018 cyhoeddodd yr Eglwys yng Nghymru ddatganiad a gynhwyswyd mewn erthygl yn y Western Mail ar 22 Rhagfyr ac a ailddefnyddiwyd wedyn mewn nifer o adroddiadau yn y cyfryngau. Nid oedd y datganiad hwn wedi ei gytuno gydag aelodau uwch tîm Esgobaeth Mynwy ac achosodd ofid sylweddol iddynt. Roedd yn gamarweiniol. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ffurfiol yn dileu’r datganiad ac yn ymddiheuro’n ddiamod am y poen a’r gofid a achosodd.
Panel yr Adolygiad
Graham James oedd Esgob Norwich rhwng 1999 a 2019. Ef oedd cadeirydd Ymchwiliad annibynnol Paterson a adroddodd i Lywodraeth Ei Mawrhydi ym mis Chwefror eleni.
Roedd Lucinda Herklots yn Ysgrifennydd Esgobaeth Caersallog am bron 15 mlynedd tan fis Tachwedd 2018. Mae ar hyn o bryd yn aelod Cabidwl yng Nghadeirlan Caersallog ac yn llywodraethwr ymddiriedolaeth yr ysbyty GIG lleol.
Mae Patricia Russell yn gyfreithiwr eglwysig yn arbenigo mewn adnoddau dynol a materion diogelu. Bu’n ddirprwy gofrestrydd Esgobaethau Caerwynt a Chaersallog rhwng 2014 a 2019.