Adroddiad Ymchwiliad ac Adolygiad Mynwy - diweddariad
Mae panel adolygu a sefydlwyd i adolygu digwyddiadau o amgylch ymddeoliad Richard Pain, cyn Esgob Mynwy, yn awr wedi cwblhau ei adroddiad.
Mewn datganiad, diolchodd y Fainc Esgobion a’r Corff Cynrychiolwyr, a gomisiynodd Ymchwiliad ac Adolygiad Mynwy, i’r panel am eu gwaith a dweud fod cyfnod o ymgynghori yn mynd rhagddo a disgwylir y byddai hynny’n parhau tan yr hydref.
Cadeiriwyd y panel, a ddechreuodd ei waith ym mis Mai 2020, gan yr Esgob Graham James a’r aelodau eraill oedd Lucinda Herklots a Patricia Russell. Ymddeolodd yr Esgob Richard ym mis Mai 2019 oherwydd afiechyd. Bu’n Esgob Mynwy ers 2013.
Datganiad
Annwyl Gyfeillion,
Ysgrifennwn i’ch hysbysu bod yr Adolygwyr, a gomisiynwyd gan y Fainc Esgobion a’r Corff Cynrychiolwyr i ystyried y materion a ddigwyddodd cyn ymddeoliad yr Esgob Richard Pain, yn awr wedi cwblhau eu gwaith. Mae Mr James Turner, Cadeirydd y Corff Cynrychiolwyr a finnau yn ddiolchgar tu hwnt iddynt am eu gwaith trwyadl a’u penderfyniadau ystyriol.
Mae’n bwysig ein bod yn awr yn cytuno ar y camau nesaf ac felly rydym yn ymgynghori gyda’r rhai oedd yn gysylltiedig yn fwyaf agos gyda’r digwyddiadau hyn er mwyn penderfynu beth ddylai’r rhain fod. Disgwyliwn wneud cynnydd yn gyflym dros gyfnod yr haf ac i gwblhau ein gwaith yn yr hydref. Rydym yn ddiolchar i’r Esgob Cherry ac yn gweithio’n agos â hi ac yn parhau i gynnwys yr esgobaeth yn ein gweddïau yn dilyn ei dristwch a phrofedigaeth ddiweddar.