Daeargryn Myanmar - Datganiad gan Archesgob Cymru, Andrew John

Daeargryn Myanmar - Datganiad gan Archesgob Cymru, Andrew John:
"Hollalluog a Tragwyddol Dduw,
Yn yr amser hwn o alar a dioddefaint, codwn ger dy fron bawb yr effeithiwyd arnynt gan y daeargryn dinistriol ym Myanmar, ac ymhellach. Rydym yn galaru colli cynifer o fywydau ac yn dal yn ein calonnau bawb sydd wedi’u hanafu, eu dadleoli a’u trawmateiddio.
Ymddiriedwn i’th ofal cariadus bawb sy’n galaru colli anwyliaid. Boed iddynt deimlo dy gysur, dy nerth, a sicrwydd dy bresenoldeb yn eu tywyllwch.
Gweddïwn dros y gwasanaethau brys, dros y rhai dewr sy’n gweithio i achub y rhai sydd wedi’u dal yn y dinistr, i iacháu’r clwyfedig, ac i ddod â gobaith i’r rhai mewn anobaith. Dyro iddynt ddiogelwch a nerth.
Arglwydd, gofynnwn am dy law iacháu ar y rhanbarth hwn sydd wedi’i dorri. Dwg dangnefedd i’r calonnau cystuddiedig, adfer trefn i’r mannau a ddinistriwyd, a llenwi’r tir â golau dy obaith.
Clyw ein gweddi, O Arglwydd, a boed i’th drugaredd a’th gariad gael eu gwneud yn hysbys i bawb sydd mewn angen. Rydym yn rhoi ein hymddiried ynot, oherwydd Ti yw ein noddfa a’n nerth, cymorth parod mewn trallod.
Trwy Grist ein Harglwydd yr ydym yn gweddïo.
Amen."