Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod
Yr wythnos hon cofiwn am holl ddioddefwyr pandemig Covid-19 mewn Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod.
23 Mawrth yw ail ben-blwydd dechrau’r cyfnod clo cenedlaethol cyntaf yn 2020. Gofynnir i chi neilltuo amser yn ystod y dydd i feddwl am y rhai a fu farw a’r rhai sy’n dal i ddioddef o’r feirws. Ymunwch â ni yn ein gweddïau a’n gwasanaeth ar-lein islaw.
Trefnir y digwyddiad hwn gan elusen Marie Curie.
Neges gan Archesgob Cymru
Annwyl gyfeillion,
Wrth i ni agosáu at ail ben-blwydd yr holl gyfyngiadau a roddwyd ar waith i geisio trin ein hymateb i bandemig Covid, hoffwn anfon neges o gefnogaeth i bawb ohonoch, at y rhai a gollodd anwyliaid neu ffrindiau, i’r rhai yr amharwyd ar eu bywydau a’r rhai a gafodd y profiad o gael eu gwahanu oddi wrth anwyliaid a chael eu cyfyngu i’w cartrefi yn un anesmwyth ac anodd. Nid ydych ar ben eich hun a rydych yn cael eich caru ac yn ein meddyliau. Ac yng ngoleuni hynny, gweddi fer:
Gwasanaeth ar-lein
Mae Esgobaeth Llandaf yn cynnal gwasanaeth dwyieithog ar gyfer y Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod. Dan arweiniad y Tad Dyfrig Lloyd, bydd y gwasanaeth yn cofio’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion a fu farw o Covid dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ymunwch â ni yn fyw am 1pm ddydd Mercher 23 Mawrth ar Facebook, Twitter ac YouTube