Ethol Archesgob Cymru Newydd
Cafodd Archesgob Cymru newydd ei ethol heddiw, dydd Llun.
Dewiswyd Andy John, sydd wedi gwasanaethu fel Esgob Bangor am y 13 mlynedd ddiwethaf, fel 14eg Archesgob Cymru.
Mae'n olynu'r Esgob John Davies a ymddeolodd ym mis Mai ar ôl pedwar mlynedd fel arweinydd yr Eglwys yng Nghymru.
Etholwyd Archesgob Andy ar ôl sicrhau pleidlais mwyafrif o ddau-draean gan aelodau'r Coleg Etholiadol ar ddiwrnod cyntaf ei gyfarfod yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod. Cadarnhawyd yr etholiad ar unwaith gan y pum esgob esgobaethol arall a chafodd ei gyhoeddi wrth ddrws yr eglwys gan Simon Lloyd, Ysgrifennydd Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru. Gorseddir Archesgob Andy yng nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor maes o law. Fel Archesgob fydd yn parhau i wasanaethu fel Esgob Bangor.
Dywedodd, "Wrth inni edrych ymlaen at y dyfodol, rydym yn gwynebu llawer o heriau, ond nid ydym yn gwneud hynny ar ein pen ein hunain. Rydym yn wynebu'r heriau gyda gras Duw a gyda'n gilydd, oherwydd gyda'n gilydd rydym yn gymaint cryfach a chymaint yn well. Rwy'n hyderus y bydd yr Eglwys yng Nghymru yn gallu ymateb ag egni a gweledigaeth. Mae'n fraint enfawr i fi wasanaethu ein Heglwys i'r perwyl hwn."
Croesawodd Archddiacon Meirionnydd, Andrew Jones, y newyddion ar ran Esgobaeth Bangor.
Dywedodd, "Ar ran Esgobaeth Bangor, rwyf am longyfarch Esgob Andy ar ei ethol yn Archesgob Cymru nesaf. Mae ei arweinyddiaeth yn Esgobaeth Bangor ers 2009 wedi bod yn rhagorol ac yn cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae wedi llywio'r esgobaeth drwy gyfnodau anhysbys ac wedi gwneud hynny gyda gofal, tosturi ac eglurder.
"Dyma fraint fawr i ni fel Esgobaeth. Trydydd Esgob Bangor i ddod yn Archesgob Cymru yn y ganrif ddiwethaf bydd Esgob Andy - GO Williams ar ddiwedd y 70au/80au a Charles Green yn y 30au. Gadawodd y ddau farc sylweddol ar hanes ein Heglwys ac rwyf yn sicr y bydd Esgob Andy yn Archesgob eithriadol yn yr un modd, a fydd yn arwain ein Heglwys yn strategol, yn ddiwyd ac yn fugeiliol.
"Fel Esgobaeth rydym yn gweddïo dros Esgob Andy a'i deulu, yn gofyn iddo gael ei fendithio yn ei weinidogaeth a'i arweinyddiaeth newydd."