Archddiaconiaid newydd
Mae Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John, yn falch o gyhoeddi penodiadau newydd i rolau sylweddol yn yr esgobaeth.
Archddiacon newydd Bangor fydd y Parchg David Parry
Er iddo gael ei eni yn yr Alban, magwyd David yn Singapôr a Lloegr. Bu'n gweithio ym maes iechyd meddwl a datblygu gwledig cyn astudio Gwaith Cymdeithasol uwchraddedig. Wedi dod yn Gristion, cymerodd David ‘flwyddyn allan’ oddi wrth Amddiffyn Plant yr awdurdod lleol i wirfoddoli fel efengylwr plwyf gyda Derby City Mission a phlannodd eglwys Tsieineaidd. Roedd yr alwad i ordeinio yn golygu yn lle ailafael yn ei yrfa Gwaith Cymdeithasol symudodd David i Fryste, gan hyfforddi yng Ngholeg y Drindod ac yna fel curad mewn partneriaeth eciwmenaidd ystâd dai.
Tra’n ficer mewn dau blwyf yn Lerpwl, rhwng 1997 a 2016, ymgymerodd David â phrosiectau adeiladu eglwysi mawr, bu’n gaplan Byddar er anrhydedd a Chanon y Gadeirlan, yn Ddeon Bro ac (am 11 mlynedd) yn Gyfarwyddwr Ordinandiaid. Anogwyd mwy o alwedigaethau lleyg ac ordeiniedig gan y tîm a ddatblygodd, gan gynnwys ymgeiswyr ifanc, anabl, lleiafrifoedd ethnig ac ymgeiswyr dosbarth gweithiol.
Wedi’i benodi’n periglor ar gyfer creu Ardal Weinidogaeth Bro Celynnin, daeth David hefyd yn ficer newydd cyntaf Tref Conwy ers 30 mlynedd. Cynhaliodd Bro Celynnin fywyd cymunedol yn y pentrefi a’r trefi yn ystod y Pandemig ond sefydlodd hefyd brosiect tlodi bwyd a gweinidogaeth ar-lein sydd wedi parhau ers hynny. Mae defnydd creadigol o adeiladau eglwysig hynafol, Celf, Cerddoriaeth a’r dirwedd wedi galluogi ‘Mynegiadau Ffres’ o addoliad, croeso i ymwelwyr a gweinidogaeth y plwyf i ffynnu.
Mae David yn briod ag Eryl, Offeiriad Arloesol a ‘Welsh Scouser.’ Mae ganddynt ddwy ferch sy’n oedolion, ac mae un ohonynt yn byw yn Zambia. Mae David yn rhedwr ac yn cefnogi Everton FC (“trwy drwchus a thenau – tenau gan amlaf!”)
Dywedodd David, “Cefais fy ‘gwirioni’ gan y gwahoddiad hwn, ar ôl saith mlynedd mor hapus yn Nyffryn Conwy. Fodd bynnag, bydd yn fraint gweithio’n agosach gyda phobl ein Hardaloedd Gweinidogaeth, cydweithwyr esgobaethol a’r Archesgob Andy, a gweddïo drostynt. Rwy’n hyderus mai cariad achubol Iesu Grist yw’r gobaith y gellir ei rannu ym mhob cymuned a wasanaethwn a phob tymor o’n bywydau.”
Dydd Sul olaf Dewi ym Mro Celynnin fydd 13 Awst. Bydd yn cael ei benodi'n Archddiacon ym mis Medi.
Dywed Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, “Rwyf wrth fy modd bod David yn ymuno â Chyngor yr Esgobion ac wedi derbyn fy ngwahoddiad i wasanaethu fel Archddiacon Bangor. Daw â chyfoeth o brofiad bugeiliol a gwybodaeth helaeth o’r Esgobaeth hon. Gwn y bydd yn gwasanaethu gyda chydweithwyr yn egnïol ac yn ddoeth”.
Archddiacon newydd Meirionnydd fydd y Parchg Ganon Robert Townsend
Mae Archesgob Cymru yn cyhoeddi penodiad y Parchg Ganon Robert Townsend yn Archddiacon newydd Meirionnydd.
Ar hyn o bryd Robert yw Arweinydd Ardal Weinidogaeth a Ficer Bro Seiriol, sy’n gwasanaethu cymunedau Biwmares, Llangoed, Penmon a Llanddona ar Ynys Môn. Bydd yn cael ei drwyddedu’n Archddiacon ddiwedd Gorffennaf a’i osod mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Bangor ym mis Medi.
Dywed Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, “Rwyf wrth fy modd bod Robert yn ymuno â Chyngor yr Esgobion ac wedi derbyn fy ngwahoddiad i wasanaethu fel Archddiacon Meirionnydd. Daw â chyfoeth o brofiad bugeiliol a gwybodaeth helaeth o’r Esgobaeth hon. Gwn y bydd yn gwasanaethu gyda chydweithwyr yn egnïol ac yn ddoeth”.
Bydd Robert yn gofalu am yr Archddiaconiaeth ac yn Gadeirydd Synod Meirionnydd, sy’n ymestyn o Lanidloes yn y Canolbarth, ar hyd Arfordir y Cambrian ac i fyny i Flaenau Ffestiniog yn ogystal â Phen Llŷn. Mae’r Archddiaconiaeth yn cynnwys arfordir Llwybr Cadfan, y llwybr pererindod arfordirol o Dywyn i Aberdaron ac Ynys Enlli, y mae prosiect newydd yn Esgobaeth Bangor yn ei adfywio.
Dywed Robert, “Rwy’n falch o fod yn dychwelyd i wasanaethu yn yr Archddiaconiaeth lle dechreuodd fy ngweinidogaeth ordeiniedig yn Nolgellau. Edrychaf ymlaen at ddathlu ein ffydd Gristnogol yn yr Archddiaconiaeth, dysgu am y cymunedau a’r Ardaloedd Gweinidogaeth, yn ogystal â’u cefnogi yn eu cenhadaeth i addoli Duw, tyfu’r Eglwys a charu’r byd.”
Daeth Robert, sy’n wreiddiol o Spalding yn Swydd Lincoln, i’r brifysgol ym Mangor yn 1986 i astudio Almaeneg. Hyfforddodd i’w ordeinio yng Nghaerdydd ac fe’i hordeiniwyd yn Ddiacon yng Nghadeirlan Bangor yn 1993. Mae wedi treulio’r rhan fwyaf o’i weinidogaeth yn Esgobaeth Bangor, lle mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Addysg a Chyfarwyddwr Cyfathrebu. Mae'n siaradwr Cymraeg rhugl.
I ffwrdd o fywyd eglwysig, mae Robert yn ceisio cadw'n heini! Mae ef a’i wraig, Kath, hefyd yn mwynhau bod yn rhan o Ysgol Glanaethwy, côr sydd wedi’i leoli ym Mangor. Pan symudon nhw i Fiwmares yn 2019, fe wirfoddolodd Robert gyda’r RNLI ac mae wedi hyfforddi fel aelod o griw’r bad achub yno. Mae hefyd yn cefnogi Lincoln City, y clwb pêl-droed yr aeth ei Dad ag ef i'w wylio yn blentyn.
Y gobaith yw y bydd Robert a’i deulu yn symud i fyw i Archddiaconiaeth Meirionnydd yn yr hydref.