Cysegru Esgob newydd Mynwy
Bydd un o glerigwyr uchaf Eglwys Lloegr yn cael ei chysegru’n Esgob yr Eglwys yng Nghymru ym mis Ionawr 2020.
Caiff yr Hybarch Cherry Vann, a fu’n gwasanaethu fel Archddiacon Rochdale yn Esgobaeth Manceinion am yr 11 mlynedd diwethaf, ei chysegru yn 11eg Esgob Mynwy ar 25 Ionawr, ar ôl cael ei hethol gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru ym mis Medi. Cynhelir y gwasanaeth cysegru yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, sedd Archesgob Cymru, John Davies, sydd hefyd yn Archesgob Abertawe ac Aberhonddu. Oherwydd cyfyngder lle, bydd mynediad i’r gwasanaeth, sy’n dechrau am 2.30pm, trwy docyn yn unig.
Bydd cyfarfod y Synod Sanctaidd i gadarnhau ei hethol, yn cael ei gynnal ar 5 Ionawr, hefyd yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.
Ar ddiwrnod y cysegru, bydd y Ddarpar Esgob Cherry yn cael ei harwain i’r Eglwys Gadeiriol gan orymdaith hir yn cynnwys clerigwyr, esgobion, cofrestryddion esgobol a changhellwyr, canonau, ac aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys a’r Coleg Etholiadol.
Yn ystod y gwasanaeth, caiff yr Esgob newydd ei heneinio ag olew sanctaidd a’i chyflwyno gyda symbolau’r swydd: y fodrwy esgobol, brongroes a meitr, yn ogystal â Beibl ac erwydd.
Rhoddir yr anerchiad gan y Parch Robert Lawrence, aelod o Gymdeithas Sant Ffransis o Esgobaeth Newcastle.
Dywedodd yr Archesgob John, “Rwy’n edrych ymlaen yn aruthrol at weithio gyda Cherry. Mae ganddi gyfraniad enfawr i’w roi i fywyd, nid yn unig yn Esgobaeth Mynwy ond hefyd i’r Eglwys yng Nghymru yn ehangach.”
Dywedodd y ddarpar Esgob Cherry, “Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at fy nghysegru, ac at ymateb i alwad Duw i wasanaethu pobl Esgobaeth Mynwy fel eu Hesgob. Gofynnaf am eich gweddïau wrth i mi symud a pharatoi i lenwi’r swyddogaeth newydd hon.”
Yn dilyn ei chysegru, bydd yr Esgob Cherry yn cael ei gorseddu yn Eglwys Gadeiriol Casnewydd wythnos yn ddiweddarach, sef 1 Chwefror am 11am.
Taith ei gweinidogaeth
Yn wreiddiol o Swydd Caerlŷr, mae Cherry Vann wedi gwasanaethu fel Archddiacon Rochdale, yn Esgobaeth Manceinion, am yr 11 mlynedd diwethaf. Hyfforddwyd hi ar gyfer y weinidogaeth yn Westcott House, Caergrawnt ac ordeiniwyd hi fel diacon yn 1989. Yn un o’r menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1994, mae wedi treulio’i holl weinidogaeth hyd yma yn Esgobaeth Manceinion, yn Flixton, Bolton a Farnworth ac yn ddiweddar yn Ashton, Oldham a Rochdale. Roedd hi hefyd yn ganon mygedol Eglwys Gadeiriol Manceinion a bu’n gaplan i bobl Fyddar.
Mae Ms Vann wedi dal swyddi uchel yn llywodraeth Eglwys Loegr. Bu’n Llefarydd Tŷ Isaf Confocasiwn Caerefrog ac yn aelod ex-officio o Gyngor yr Archesgobion. .
Yn bianydd talentog, mae Ms Vann yn Gydymaith y Royal College of Music (ARCM) ac yn un o Raddedigion yr Ysgolion Cerddoriaeth Brenhinol. Bu’n arweinydd y Cerddorfa Siambr Bolton am fwy nag 20 mlynedd.