Ethol Esgob newydd Llandaf
Un o’r menywod cyntaf i ddod yn offeiriad yng Nghymru fydd Esgob nesaf Llandaf.
Etholwyd y Gwir Barchedig Mary Stallard, yr Esgob Cynorthwyol ym Mangor, yn Esgob Llandaf gan Goleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru ar ail ddiwrnod ei gyfarfod yng Nghadeirlan Llandaf.
Gwnaed y cyhoeddiad wrth ddrws gorllewinol y Gadeirlan gan Archesgob Cymru, Andrew John, ar ôl i’r Esgob Mary sicrhau’r bleidlais gyda’r mwyafrif angenrheidiol o ddau-draean.
Dywedodd yr Archesgob Andrew, “Mae’r Esgob Mary wedi gwasanaethu Esgobaeth Bangor gydag egni, ffyddlondeb a llawenydd enfawr. Mae’n fraint enfawr i ni fedru ei throsglwyddo i Esgobaeth Llandaf lle gwyddom y daw â’r holl ddoniau a ddangosodd i ni. Rydym mor falch drosti.”
Dywedodd yr Esgob Mary, “Mae’n wir fraint i dderbyn yr alwad newydd hon a gwnaf fy ngorau glas i’w chyflawni’n ffyddlon.”
Caiff etholiad yr Esgob Mary ei gadarnhau’n ffurfiol mewn gwasanaeth Synod Sanctaidd ym mis Ebrill. Caiff ei gorseddu fel 73fed Esgob Llandaf yng Nghadeirlan Llandaf yn fuan wedyn.
Mae’r etholiad yn dilyn ymddeoliad June Osborne ddiwedd mis Rhagfyr, a fu’n gwasanaethu fel Esgob Llandaf ers 2017. Mae Esgobaeth Llandaf yn gwasanaethu bron hanner poblogaeth Cymru gan gynnwys y rhan fwyaf o Gaerdydd, cymoedd De Cymru a Bro Morgannwg.
Taith Gweinidogaeth
Yn hanu o Birmingham, cafodd yr Esgob Mary Stallard ei magu mewn rheithordy. Roedd ei thad yn ficer a’i mam yn wyddonydd sy’n golygu iddi gael ei magu mewn cartref lle anogwyd codi cwestiynau am fywyd a ffydd.
Bu Mary yn darllen Diwinyddiaeth yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt ac astudiodd i fod yn athrawes yn Llundain cyn hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham a Choleg Diwinyddol Tamil Nadu yn India.
Ymysg y menywod cyntaf i’w hordeinio fel offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru yn 1997, gwasanaethodd fel curadur yng Nghasnewydd, cyn symud i Esgobaeth Tyddewi fel diacon-mewn-gofal a ficer Ysbyty Cynfyn, Eglwys Newydd a Llantrisant. Yn 2003 penodwyd Mary yn Ganon Preswyl yng Nghadeirlan Llanelwy ac yn Gaplan yr Esgob, gan wasanaethu hefyd fel Cyfarwyddwr Ordinandau yr Esgobaeth a Chadeirydd Bwrdd Gweinidogaeth yr Esgobaeth ac Ysgrifennydd Detholiad Taleithiol.
Rhwng 2011 a 2018 gwasanaethodd fel Caplan Anglicanaidd yn Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff, yn ogystal â bod yn Offeiriad Cyswllt yn Ardal Cenhadaeth Wrecsam. Roedd hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Addysg Grefyddol a Datblygu Ffydd San Silyn yn Wrecsam.
Daeth yn Archddiacon Bangor ac offeiriad cyswllt Llandudno yn 2018. Cafodd Mary ei phenodi ym mis Ionawr y llynedd yn Esgob Cynorthwyol Bangor, a chafodd ei chysegru fel esgob ym mis Chwefror.
Mae gweinidogaeth darlledu sylweddol yr Esgob Mary wedi ei gweld yn ymddangos ar BBC Radio Cymru fel arweinydd Yr Oedfa ac mae wedi cyfrannu at Bwrw Golwg, ar BBC Radio Wales yn all Things Considered, Celebration, Wednesday Word a Weekend Word, ac ar Radio 4 fel arweinydd The Daily Service a Sunday Worship ac fel awdur a chyflwynydd Prayer for the Day.
Mae Mary yn briod â’r Parch Andrew Sully, Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Llandudno, ac mae ganddynt ddwy ferch sydd bellach yn oedolion. Mae ei hobïau yn cynnwys coginio, darllen a rhedeg.