Ethol Esgob newydd Tyddewi
Bydd uwch glerig sydd wedi gwasanaethu ym mhob sir o esgobaeth fwyaf Cymru, bellach yn ei harwain fel ei 130ain esgob.
Heddiw etholwyd Archddiacon Caerfyrddin, Dorrien Davies, yn Esgob nesaf Tyddewi – esgobaeth sy’n cwmpasu tair sir Gorllewin Cymru, sef Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Sicrhaodd yr Archddiacon Dorrien y bleidlais fwyafrifol angenrheidiol o ddwy ran o dair gan aelodau’r Coleg Ethol ar ail ddiwrnod ei gyfarfod yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud wrth ddrws gorllewinol y Gadeirlan gan Archesgob Cymru, Andrew John.
Meddai, “Rwyf wrth fy modd bod Archddiacon Caerfyrddin wedi'i ethol. Bydd ei brofiad o’r lle hwn a’i ddoethineb dwfn a’i sgiliau i gyd yn cael eu defnyddio wrth arwain yr esgobaeth yn ei blaen a’i dwyn ynghyd mewn ffydd, gobaith a chariad. Yn ei ofal ef, gwn y bydd yr esgobaeth hon, fel y dywedodd Dewi Sant ei hun wrthym, yn llawen, yn gwneud y pethau bychain ac yn cadw’r ffydd.”
Dywedodd yr Archddiacon Dorrien, “Mae’n fraint ac yn anrhydedd o’r mwyaf bod y Coleg Ethol wedi fy mhenodi i wasanaethu fel Esgob a byddaf yn gwneud fy ngorau i wasanaethu nid yn unig yr Esgobaeth ond Talaith Cymru. Mae hyn yn golygu llawer iawn i mi ac edrychaf ymlaen at arwain yr esgobaeth hon at bethau gwych a newydd.”
Archddiacon Dorrien fydd y Darpar Esgob hyd nes y bydd yr etholiad yn cael ei gadarnhau’n ffurfiol mewn gwasanaeth o’r Synod Sanctaidd ar Tachwedd 29. Bydd yn cael ei gysegru’n Esgob yn Eglwys Gadeiriol Bangor – sedd yr Archesgob – ar Ionawr 27, a’i orseddu’n 130ain Esgob Tyddewi yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar Chwefror 3.
Daw’r etholiad ar ôl i Joanna Penberthy, a fu’n gwasanaethu fel Esgob Tyddewi o 2017, ymddeol ar ddiwedd mis Gorffennaf.
Mae'r Coleg Ethol yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r chwe esgobaeth yng Nghymru a'r esgobion. Caiff yr esgobaeth 'gartref' - Tyddewi yn yr achos hwn - ei chynrychioli gan chwech o leygion a chwech o glerigion a'r pum esgobaeth arall gan dri o leygion a thri o glerigion yr un. Mae ei drafodaethau yn gyfrinachol. Caiff ymgeiswyr ar gyfer etholiad eu henwebu yn y cyfarfod, eu trafod a chynhelir pleidlais. Cânt eu datgan yn Ddarpar Esgob os ydynt yn sicrhau mwyafrif o ddwy ran o dair.
Taith y Weinidogaeth
Yn enedigol o Abergwili ac yn Gymro Cymraeg, hyfforddwyd Dorrien ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg Mihangel Sant, Llandaf, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad ym 1989. Gwasanaethodd fel curadur yn Llanelli cyn cael ei benodi'n Ficer Llanfihangel Ystrad Aeron yng Ngheredigion. Yn ystod y cyfnod hwnnw, astudiodd Dorrien am radd ym Mhrifysgol Cymru, Coleg Llanbedr Pont Steffan, gan raddio ym 1995. Fe'i penodwyd yn Ficer Llandudoch, Sir Benfro, ym 1999 a gwasanaethodd yno am 11 mlynedd. Yn 2007, fe’i gwnaed yn Ganon yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn 2010, symudodd i Dyddewi fel Canon Preswyl. Yn 2017 penodwyd Dorrien yn Archddiacon Caerfyrddin ac yn offeiriad â gofal Sanclêr.
Mae Dorrien yn briod â Rosie ac mae ganddynt ddau fab, Morgan a Lewies. Mae ei hobïau yn cynnwys darllen a phaentio.