Cysegru Esgob newydd Tyddewi
Bydd Esgob newydd Tyddewi yn cael ei ei gysegru mewn gwasanaeth arbennig y mis hwn.
Caiff yr Esgob Dorrien ei eneinio a bydd yn derbyn arwyddion swydd esgob yn ystod ei gysegriad ar 27 Ionawr.
Mae’r gwasanaeth yn dilyn ei ethol ym mis Hydref yn 130fed Esgob Tyddewi, yr esgobaeth sy’n cynnwys y tair sir yng Ngorllewn Cymru, sef Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion.
Fe’i cynhelir yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor gan mai dyna sedd Archesgob cyfredol Cymru, Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor.
Yn ystod y gwasanaeth caiff yr Esgob Dorrien ei eneinio gydag olew sanctaidd a chyflwynir symbolau’r swydd iddo: modrwy esgob, brongroes a meitr, yn ogystal â Beibl a bagl esgob. Bydd y côr yn canu darn o gerddoriaeth newydd wrth i’r symbolau gael eu cyflwyno. Wedi’i gyfansoddi gan Joe Cooper, cyfarwyddwr cerdd y Gadeirlan, mae’n osodiad o gerdd Gymraeg o’r 16fed ganrif gan Dafydd Trefor am gysegriad Deiniol, Esgob cyntaf Bangor.
Mae Dorrien yn offeiriad profiadol iawn ac wedi ennill calonnau’r rhai a wasanaethodd dros y blynyddoedd.
Caiff y gwasanaeth cysegru ei arwain gan yr Archesgob gydag esgobion eraill Cymru gyda 300 o wahoddedigion yn bresennol yn cynnwys eglwysi a sefydliadau dinesig ledled Cymru. Bydd esgobion o eglwysi Anglicanaidd eraill yn y Deyrnas Unedig – Eglwys Lloegr, Eglwys Iwerddon ac Eglwys Esgobaethol yr Alban – hefyd yn bresennol.
Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 2pm a chaiff ei ffrydio’n fyw ar sianel Youtube y Gadeirlan i bawb ymuno.
Dywedodd yr Esgob Andrew, fydd hefyd yn rhoi’r anerchiad, “Rwy’n hynod falch i gysegru Dorrien, gyda chydweithwyr, a’i urddo gyda symbolau ei swydd fel esgob. Mae Dorrien yn offeiriad profiadol iawn ac wedi ennill calonnau’r rhai a wasanaethodd dros y blynyddoedd. Rwy’n sicr y byddwn i gyd yn ei gadw yn ein gweddïau wrth iddo ddechrau ar y bennod newydd hon yn ei weinidogaeth.”
Meddai’r Esgob Dorrien, “Wrth i mi agosáu at fy nghysegriad, gwnaf hynny yn wylaidd iawn. Mae cael fy ethol yn 130fed Esgob Tyddewi yn anrhydedd ac yn her. Rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol, yn ddiolchgar am weddïau, cymorth a chefnogaeth llawer iawn o bobl. Fodd bynnag, mae sicrwydd cariad a gras arweiniol Duw gyda fi, ynghyd â gobaith a llawenydd. Gofynnaf am weddi barhaus pobl wrth i mi ddechrau ar y bennod newydd hon yn fy ngweinidogaeth.”
Yn dilyn ei gysegriad, caiff yr Esgob Dorrien ei orseddu’n Esgob Tyddewi yng Nghadeirlan Tyddewi ar 3 Chwefror. Caiff ei sefydlu yng nghadair yr Esgob a hefyd ei groesawu gynrychiolaeth o bob rhan o Esgobaeth Tyddewi.