Cysegru esgobion newydd
Cafodd dau esgob newydd eu cysegru mewn gwasanaeth arbennig ddydd Sadwrn.
Cysegrwyd Esgob newydd Abertawe ac Aberhonddu, John Lomas a’r Esgob Cynorthwyol ym Mangor, Mary Stallard, mewn gwasanaeth yng Nghadeirlan Deiniol Sant ym Mangor, a gafodd ei ffrydio’n fyw i alluogi pawb i ymuno.
Arweiniwyd y gwasanaeth gan Archesgob Cymru, Andrew John, sydd hefyd yn Esgob Bangor. Cafodd yr esgobion newydd eu harwain i’r Gadeirlan gan orymdaith hir oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o esgobaethau a chadeirlannau Cymru. Yn ystod y gwasanaeth cafodd yr esgobion newydd eu heneinio gydag olew sanctaidd a chyflwynwyd symbolau’r swydd iddynt: modrwy esgobaethol esgob, brongroes a meitr, yn ogystal â Beibl a ffon fugeiliol.
Rhoddwyd anerchiad gan Archddiacon Môn, Andrew Herrick.
Cafodd cerddoriaeth newydd, a gyfansoddwyd ar gyfer yr achlysur, ei pherfformio am y tro cyntaf yn y gwasanaeth. Canodd Côr Cadeirlan Deiniol Sant osodiad o destunau Cymun gan Joe Cooper, yn seiliedig ar alawon emynau Cymraeg adnabyddus. Canwyd anthem arbennig, a gyfansoddwyd gan Simon Ogdon, ar uchafbwynt yn y gwasanaeth, yn union cyn ordeinio’r ddau esgob newydd.
- Y gwasanaeth oedd y cysegriad cyntaf yn yr Eglwys yng Nghymru i gael ei ffrydio’n fyw a gellir gweld y recordiad yma
Caiff yr Esgob Mary ei chroesawu i’w swydd newydd yn Esgobaeth Bangor gyda gwasanaeth dathlu ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth, am 2.30pm. Caiff ei chyfarch gan bobl o bob rhan o Esgobaeth Bangor a bydd yn cyd-lywyddu gydag Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, Andrew John, mewn dathliad o’r Ewcharist Sanctaidd. Caiff y gwasanaeth hwn hefyd ei ffrydio’n fyw.
Caiff yr Esgob John ei orseddu fel 10fed Esgob Abertawe ac Aberhonddu yng Nghadeirlan Aberhonddu, sedd sedd yr Esgobaeth ar 5 Mawrth. Caiff ei osod yng nghadair yr Esgob a hefyd ei groesawu gan gynrychiolwyr o bob rhan o esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Bydd y gwasanaeth yn cychwyn am 2pm ac mae mynediad drwy docyn yn unig oherwydd prinder lle. Caiff hefyd ei ffrydio’n fyw
- Mae mwy o luniau o’r gwasanaeth ar dudalen Facebook yr Eglwys yng Nghymru