Neuadd Eglwys newydd yn agor yn Hundleton
Nadolig 2015. Dyddiad cau Eglwys Dewi Sant, eglwys wledig fechan ar gyrion pentref Hundleton yn ne Sir Benfro. Ar y pryd roedd gan yr eglwys gynulleidfa reolaidd o tua 5 o addolwyr a dyledion o bron i £10,000. Roedd y dyfodol yn edrych yn ddu iawn.
Ond mae’r rhod wedi troi! Drwy ras Duw mae’r gynulleidfa wedi tyfu’n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf i’r fath raddau nes bod angen adeilad mwy. Ar lawer i Sul yn ystod 2019 roedd y lle dan ei sang a’r Ysgol Sul wedi’i gwthio i gornel fechan yng nghefn yr eglwys.
Ar sail angen felly, a chyda llawer o weddïo, dechreuodd y gwaith ar brosiect mawr i adeiladu neuadd eglwys newydd sbon. O’r cychwyn cyntaf roedd pwyllgor yr eglwys yn argyhoeddedig bod ganddyn nhw fendith Duw ar y weledigaeth hon. Ym mhob cam rydym wedi gweld llaw Duw ar ein cynlluniau wrth i ni eu cynnig iddo mewn gweddi. Un o’r bendithion a dderbyniodd y prosiect oedd darpariaeth ariannol, cymaint felly fel bod y prosiect cyfan wedi’i ariannu heb unrhyw grantiau na benthyciadau.
Pleser felly oedd croesawu grŵp o 30 o aelodau’r gynulleidfa a chefnogwyr yn cadw pellter cymdeithasol i weld yr Archddiacon Paul Mackness yn agor y neuadd orffenedig yn swyddogol ar 29 Tachwedd 2020, Sul cyntaf yr Adfent. Mor addas cael achlysur mor llawen i ddynodi blwyddyn newydd yr eglwys!
Yn ei anerchiad atgoffodd yr Archddiacon Paul y gynulleidfa y dylid ystyried y neuadd newydd bob amser fel adeilad ar gyfer croeso, tystio ac addoli. Mae’r weledigaeth honno wastad wedi bod yn ganolog i brosiect y neuadd newydd a gweddïwn y bydd yn parhau i fod felly.
Mewn blwyddyn sydd wedi bod mor anodd i gynifer, rydym yn llawenhau bod Duw yn dal ar waith, yn dal i newid bywydau, yn dal i adeiladu ei eglwys, yn dal i deyrnasu a bod ganddo gynlluniau cyffrous i’r rhai sy’n ymddiried ynddo.