Ordeinio diaconiaid ac offeiriaid newydd ledled Cymru
Bydd cannoedd o bobl yn heidio i gadeirlannau ledled Cymru y penwythnos hwn i groesawu offeiriaid a diaconiaid newydd mewn cyfres o wasanaethau ordeinio.
Mae awdur areithiau i’r llywodraeth, syrfëwr, llyfrgellydd ysgol ac arweinydd côr ymysg 40 o bobl fydd yn dechrau bywyd newydd yn gwasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru ar ôl sawl blwyddyn o hyfforddiant. Cânt eu hordeinio gan eu hesgob esgobaethol o flaen eu teuluoedd, cyfeillion, cydweithwyr ac aelodau’r gymuned mewn gwasanaethau llawen sydd ar agor i bawb.
O’r 40 ymgeisydd, caiff 19 eu hordeinio yn ddiaconiaid a 21 yn offeiriaid. Caiff y rhan fwyaf eu hordeinio ddydd Sadwrn a chafodd wyth diacon eu hordeinio yng Nghadeirlan Llandaf ar 22 Mehefin.
Dywedodd Andrew John, Archesgob Cymru, “Mae’r rhain yn bobl y mae ffydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau ac sydd eisiau ymrwymo eu hunain i wasanaethu eraill. Maent yn dod â chyfoeth o ddoniau a phrofiad i’r Eglwys ac rydym yn hynod falch i’w croesawu a’u cefnogi. Gofynnaf i chi eu cadw yn eich gweddïau wrth iddynt ddechrau ar y bennod newydd a chyffrous yma yn eu bywydau.”
Caiff yr ordinandiaid eu henwi isod, ynghyd manylion o ble byddant yn gwasanaethu.

Esgobaeth Llanelwy
Cadeirlan Llanelwy, 29 Mehefin, 10am
Diacon
- Rebecca Kelly, Ardal Cenhadaeth Dinbych
Offeiriaid
- Emma Dale, Ardal Cenhadaeth Alun,
- Annalise Evans, Ardal Cenhadaeth Alun,
- Wendy Gardner, Ardal Cenhadaeth Cedewain,
- Kathryn Hall, Ardal Cenhadaeth Aber a Mynydd,
- Hugh Richardson, Stryt Hôb, Wrecsam
- Cass Meurig Thomas, Ardal Cenhadaeth Glyn y Groes
Esgobaeth Bangor
Cadeirlan Bangor, 29 Mehefin, 11am
Offeiriad
- Josie May Godfrey
Esgobaeth Tyddewi
Cadeirlan Tyddewi, 29 Mehefin, 10.30am
Diaconiaid
- Nicola Davies, LMA a Bywoliaeth Unedig Rhws
- Liz Jones, LMA a Bywoliaeth Unedig Bro Caerfyrddin
- Dr Romola Parish, LMA a Bywoliaeth Unedig Dyffryn Teifi
- Luke Spencer, LMA a Bywoliaeth Unedig Daugleddau a Chaplan Ysgol a Gynorthwyir yn Wirfoddol Penrhyn Dewi
- Sally Williams, LMA a Bywoliaeth Unedig Offeiriaid Daugleddau
Offeiriad
- Y Parch Sarah Llewellyn, LMA a Bywoliaeth Unedig Bro Sanclêr
Esgobaeth Llandaf
Cafodd wyth o bobl eu hordeinio fel diaconiaid yng Nghadeirlan Llandaf ar 22 Mehefin a chaiff naw eu hordeinio fel offeiriaid ar 29 Mehefin am 11am.
Diaconiaid
- Charis Britton, Ardal Gweinidogaeth Calon y Ddinas,
- Lee Gonzales, Ardal Gweinidogaeth Arfordir Treftadaeth Morgannwg
- Henry Grover, Ardal Gweinidogaeth Taf Wenallt
- Dr Sue Hurrell, Ardal Gweinidogaeth Gorllewin Caerdydd
- Chris Kitching, Ardal Gweinidogeth y Bontfaen
- Yr Athro Lloyd Llewelyn-Jones, Ardal Gweinidogaeth Calon y Ddinas
- Sian Parker, Ardal Gweinidogaeth Gorllewin Caerdydd
- Lisa Spratt, Ardal Gweinidogaeth Cwm Llynfi a Chwm Afan Uchaf
Darllen adroddiad y gwasanaeth
Offeiriaid
- Alison Dummer, Cadeirlan Llandaf
- Jeremy Heuslein, Ardal Gweinidogaeth Pontypridd
- Natalie Jones, Ardal Gweinidogaeth Caerffili a Chwm Aber
- James Lawson, Ardal Gweinidogaeth y Rhondda
- Ross Pilliner, Ardal Gweinidogaeth Gogledd Caerdydd
- Heather Temple-Williams, Ardal Gweinidogaeth Calon y Ddinas
- James Wragg-Smith, Ardal Gweinidogaeth Calon y Ddinas
- Ali a Pete Oakley, Ardal Gweinidogaeth Calon y Ddinas
Esgobaeth Mynwy
Cadeirlan Casnewydd, 29 Mehefin, 10.30am
Diaconiaid
- Ashley Rhys Davies, Ardal Gweinidogaeth y Fenni
- Marlwyn Louise Nixon, Ardal Gweinidogaeth Cwmbrân
- Liane Miriam Chalmers, Ardal Gweinidogaeth Illtyd Sant
Offeiriaid
- Dawn Elizabeth Lindsay, Ardal Gweinidogaeth Gogledd Orllewin Casnewydd
- Julia Kathleen Durham, Ardal Gweinidogaeth Parc Tredegar
- William Henry Savage, Ardal Gweinidogeth Calon Sir Fynwy
Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu
Cadeirlan Aberhonddu, 29 Mehefin, 2pm
Diaconiaid
- Darran Hickery, Ardal Gweinidogeth Penderi
- Y Chwaer Sonia Parkin, Ardal Gweinidogaeth y Mwmbwls
Offeiriad
- Mairwen Large, Ardal Gweinidogeth Catwg Sant